| CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO |
Crys T Tiger Bay Whalers Gwragedd Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer y darn hwn yn ôl pob tebyg oddi wrth y Wurriyas, y band tw tôn yn nofel John Williams, Cardiff Dead. Neu efallai fy mod wedi fy ysbrydoli wrth wylio’r tyrfaoedd yn cerdded ar hyd ysblander cŵl Bae Caerdydd ar noson gynnes o haf. Yn wahanol i’r getoau ar wahân sy’n amlwg yn ninasoedd Lloegr heddiw roedd Tiger Bay – fel y gelwid ardal Butetown o Gaerdydd yn answyddogol ar un adeg – yn batrwm o gydfyw hiliol. Yn yr hen amser byddai morwyr o bob rhan o’r byd yn ymsefydlu yn ardal y dociau, yn priodi ymysg ei gilydd ac yn cychwyn bywydau newydd gyda’i gilydd. Mewn gwirionedd, fodd bynnag, roedd Tiger Bay yn llawn o dai teras mewn cyflwr gwael, puteindai, tafarndai amheus a thai hap chwarae a phrin y gellir bod yn sentimental ynghylch hynny. Mae datblygiad Bae Caerdydd wedi trawsffurfio Caerdydd yn brifddinas y gellir ei chymharu ag eraill ar hyd y byd. Ond roedd yr enw "Tiger Bay" mor llawn o swyn. Meddyliais am y "Wailers", fel yn "Bob Marley and the...” ond roedd pobl sy’n hela morfilod yn swnio’n fwy anturus ac egsotig ac mae’r deipograffeg yn gweithio’n well. Argraffir mewn gwyrdd ar felyn 240-gram. Siersi cotwm 100%. Pris: £16.00 (£18.40 yn cynnwys TAW)
|
CYMRAEG – ENGLISH
|