| CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO |
Crys T There's Lovely Gwragedd Er yn seiliedig ar sylw Eingl-gymreig fe ddaeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer y darn hwn gan ddynes Bacistanaidd-Ffineg-Saesneg brydferth a hynod o alluog rydw i’n ddigon ffodus i fod yn rhannu fy mywyd â hi. Mae "Lovely" yn ymadrodd o anwyldeb wrth gyfeirio at Zarina. Wrth ddysgu i werthfawrogi’r gorau sy’n perthyn i ddiwylliannau Pacistan a’r Ffindir rydw i wedi magu perthynas ddyfnach gyda’r gorau oedd yn rhan o’m magwraeth Gymreig. Ond mae gen i hefyd atgasedd cynyddol tuag at werthoedd gwaethaf y diwylliannau gwrth-seisnig a gwrth-Americanaidd, ac yn benodol pan fydd crynhoi cyfoeth yn disodli gwarineb a chwlt y seleb yn disodli gwerthoedd dynol megis parch a thosturi. Peidiwch â chredu fy mod yn gweld fy nghartref trwy sbectol rhosliw. Ond rydw i’n synhwyro bod yna awch cynyddol dros greu gwell cymdeithas yng Nghymru. Rydw i’n hoffi topograffeg y darn hwn i’r fath raddau nes fy mod wedi’i ddefnyddio ar gyfer tudalen flaen y safle. Rydw i’n credu ei fod yn effeithiol iawn am ei fod yn greadigaeth a ysbrydolwyd gan edmygedd, cariad a pharch tuag at ddynes arbennig iawn. Argraffir mewn wylys ar binc tywyll 240-gram. Siersi cotwm 100%. Pris: £16.00 (£18.40 yn cynnwys TAW)
Sgroliwch i lawr i ganfod dilledyn arall o'r un dyluniad.
|
CYMRAEG – ENGLISH
|
Camisôl There's Lovely Yr un dyluniad ag uchod wedi’i argraffu mewn wylys ar wyn 200-gram siersi cotwm cribedig cydgloi 100%. Pris £14.00 (£16.10 yn cynnwys TAW).
Sgroliwch i lawr i ganfod dilledyn arall o'r un dyluniad.
|
CYMRAEG – ENGLISH
|
Fest There's Lovely Amrywiad arall wedi’i argraffu mewn aur ar ddu tryloyw 105-gram siersi cotwm cribedig 100%. Pris £14.00 (£16.40 yn cynnwys TAW)
|
CYMRAEG – ENGLISH
|