CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO


Crys T Baner y Bobl Gwragedd

“The people’s flag is brightest red, the colour of our martyred dead”...

Mae gan y darn hwn fwy i’w wneud â gwleidyddiaeth cyfnod fy ieuenctid na’r un dim sy’n digwydd ar hyn o bryd. Mae hefyd yn ymwneud â’m cyfaill Craig Thomas a gwleidyddiaeth ei ieuenctid.

Dydw i ddim yn gwybod am Craig, a fu’n aelod o’r Blaid Gomiwnyddol, ond dwi’n dal i gael hunllefau am ddigwyddiad digon anghynnes pan oeddwn yn rhoi stŵr yn ddigon didrugaredd i fy nain am ryw agwedd neu’i gilydd o athroniaeth Farcsaidd. Roedd hi’n fenyw garedig ac urddasol ac yn ôl pob tebyg wedi anghofio am fy ymddygiad erbyn trannoeth. Mae’n edifar gen i na fuaswn wedi dweud wrthi fy mod yn wirioneddol flin ond roedd hi wedi llwyr ymlâdd a bu farw rai blynyddoedd yn ôl.

Dyna’r drwg gyda chyfiawnder, fe ddaw megis cleddyf bygythiol sydyn.

Erbyn hyn, rydw i o leia’n ceisio goddef fy nghyd-ddyn. Hyd yn oed pan mae’n amlwg ei fod yn cafflo. Ar wahân i hynny nid wyf yn credu mewn cred rhagor. Arferwn gredu y medrai’r Internationale uno’r hil ddynol. Petai hynny ond yn wir.

Gyfaill, cliciwch ar y ddolen i fynd â chi at erthygl o dan y teitl Baner y Bobl os ydych am wybod mwy am y pwnc hwn.

Argraffir mewn du a gwyn ar goch 240-gram. Siersi gotwm 100%.

Pris: £19.00 (£21.85 yn cynnwys TAW)

Dewiswch eich maint:

 

 

CYMRAEG – ENGLISH