| CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO |
Crys T Tywysoges Cymru/Princess of Wales Gwragedd Charlotte Church yw Tywysoges Cymru de facto. Dydw i ddim yn gefnogwr mawr o’r frenhiniaeth nag o selebs o ran hynny, ond ni fedraf beidio ag ymserchu yn Charlotte, yn arbennig pan fydd y cyfryngau Saesneg yn ceisio ei thynnu i lawr. Ac mae hi a Gav yn dipyn mwy poblogaidd na Charlie Windsor a’i fusus. Efallai bod gan y Saeson eu Posh a Becks ond mae hynny ond yn dangos nad oes dim sylwedd yn yr hyn sy’n weddill o ddiwylliant Seisnig. Dydw i ddim yn siŵr os gellir eu disgrifio’n boblogaidd chwaith, ar wahân yng ngolwg y paparazzi. O leiaf mae yna sylwedd yn perthyn i Charlotte a Gavin hyd yn oed os ydyn nhw’n chwarae â thân. Cyn belled ymddengys bod Charlotte yn mynd i oresgyn pob storm ac mae hynny’n rhinwedd angenrheidiol ym mhersonoliaeth pob Tywysoges fodern. Er parch i Charlotte mae’r crys hwn wedi ei ddylunio ar gyfer ei wisgo yng nghwmni pishyn go iawn o Gymro yn gwisgo crys Tywysog Cymru o gasgliad y dynion. Wedi ei argraffu mewn du, aur a choch ar lwyd golau 240-gram. Siersi cotwm 100%. Pris: £14.00 (£16.10 yn cynnwys TAW)
|
CYMRAEG – ENGLISH
|