CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO


Crys T Môrladron Pwllheli Gwragedd

Ar ddiwrnod tyngedfennol yn 1566 gollyngodd llong fasnach Iseldiraidd oedd yn cludo siwgr, triagl, crwyn geifr a deunyddiau eraill o Ogledd Affrica i Antwerp, ei hangor oddi ar Ynysoedd Tudwal, dwy ynys fechan ychydig filltiroedd i’r gorllewin o Bwllheli. Roedd y llong wedi crwydro oddi ar ei llwybr morwrol am fod môrladron wedi’i chipio.

Gwerthwyd yr ysbail gan y môrladron i drigolion Pwllheli a oedd yn brin o nwyddau beth bynnag. Ar ôl pocedi’r elw diflannodd y criw i gyfeiriad y machlud gan adael dau frawd lleol, Jevan a Richard ap Meredith i wynebu’r grocbren.

Ar hyn o bryd mae Asda wrthi’n cyflawni gweithred debyg am eu bod yn bwrw ati’n ddihidiol o’r broses gynllunio er mwyn codi archfarchnad a fydd yn sicrhau elw i’w cyfranddalwyr Wal-Mart yn yr Unol Daleithiau.

Er y bydd gan Bwllheli nawr hwylustod archfarchnad ar ei rhiniog bydd hynny’n golygu y collir llawer o fusnesau bychain Cymreig a arferai gyflwyno arian nôl i’r economi lleol. Dyna chi beth yw globaleiddio.

Argraffir mewn gwyn a choch ar ddu 240-gram. Siersi cotwm 100%.

Pris: £27.00 (£31.73 yn cynnwys TAW)

Dewiswch eich maint:

Sgroliwch i lawr i ganfod dilledyn arall o'r un dyluniad.

 

 

CYMRAEG – ENGLISH

Camisol Morladron Pwllheli Pirates

Yr un dyluniad ag uchod wedi’i argraffu ar ddu 200 gram  100% cotwm cydgloi cribedig meddal. Bydd y dilledyn hwn yn edrych yn ffantastig gyda jîns a lliw haul potel neu o dan siaced ffurfiol ar noson mas yn y Bar Soda.

Pris £25.00 (£29.38 yn cynnwys TAW)

Dewiswch eich maint:

 

 

 

CYMRAEG – ENGLISH