CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO


Crys T Hiraeth Gwragedd

Tua chwe blynedd nôl cefais wahoddiad gan Deledu Sky i weld gornest focsio rhwng Lennox Lewis a Frank Bruno, a gynhelid yn yr awyr agored yn yr hen Barc yr Arfau ym mis Hydref. Peidiodd y glaw am getyn digon hir i alluogi Lewis i roi crasfa i’r Bruno truenus ac roedd yr ornest ei hun drosodd mewn dim o amser.

Roedd yr amgylchiad yn rhyfedd am fod y Cymry lleol llawn chwilfrydedd yn y seddau rhad yn yr entrychion, filltiroedd o’r sgwâr, a’r cefnogwyr bocsio go iawn, y mwyafrif o Ddwyrain Llundain, yn eistedd ar y cae. Roedd y seddau prisiau canolig yn gwbl wag.

Cyn i’r ornest ddechrau chwaraewyd ‘Hen Wlad fy Nhadau’. Roedd yna fôr o ganu i’w glywed yn y seddi yn yr entrychion ond o’m cwmpas, yn y rhesi blaen, roedd yna fudandod llwyr. Yr eiliad honno roeddwn i am fod gyda’r bechgyn yn yr entrychion.

Mae ‘hiraeth’ yn air mor brydferth, o ran ei sŵn a’i ystyr. Gwn fy mod wedi tynghedu i beidio â bod yn sentimental ac ystrydebol, ond i mi, mae gwrando ar recordiad Richard Burton o ‘Under Milk Wood’ gan Dylan Thomas yn creu’r emosiwn unigryw Cymreig hwn.

Argraffir mewn inc gwyn adweithiol ar las golau 165-gram. Siersi cotwm 100%. Mae’r broses hon yn creu effaith sy’n edrych fel petai’r teip wedi’i gannu i mewn i’r crys (oherwydd mai dyna wnaed)

Pris: £14.00 (£16.10 yn cynnwys TAW)

Dewiswch eich maint:

Sgroliwch i lawr i ganfod dilledyn arall o'r un dyluniad.

 

 

CYMRAEG – ENGLISH

Fest Siersi Dryloyw Hiraeth

Dylwn ddweud bod gwerthfawrogiad Lily Ashley o’r cysyniad y tu ôl i’r dilledyn hwn, a’r casgliad hwn yn gyffredinol, wedi fy ysbrydoli’n fawr.

Mae Lily’n byw ar adegau mewn tŷ prydferth mewn dyffryn prydferth yn un o lecynnau prydferthaf Cymru ond, oherwydd amgylchiadau, gŵyr beth yw hiraethu am adref.

Yr un dyluniad ag uchod wedi’i argraffu mewn inc adweithiol ar goco 105-gram tryloyw 100% cotwm cydgloi cribedig. Mae’r broses hon yn creu effaith sy’n edrych fel petai’r teip wedi’i gannu i mewn i’r crys (am ei fod wedi).

Pris £14.00 (£16.10 yn cynnwys TAW)

Dewiswch eich maint:

Sgroliwch i lawr i ganfod dilledyn arall o'r un dyluniad.

 

 

CYMRAEG – ENGLISH

Crys T Hiraeth Llewys ¾ Gwddf Cwch 

Wedi’i argraffu mewn inc adweithiol llwyd ar wyn 200-gram  100% cotwm cydgloi cribedig. Mae’r broses hon yn creu effaith sy’n edrych fel petai’r teip wedi’i gannu i mewn i’r crys (am ei fod wedi).

Pris £14.00 (£16.10 yn cynnwys TAW)

Dewiswch eich maint:

 

 

CYMRAEG – ENGLISH