| CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO |
Crys T Daffodil Gwragedd Deuthum ar draws yr ymadrodd ‘milwyr daffodil’ mewn erthygl gan Robert Kitson ym mhapur newydd y Guardian. Roedd yn ysgrifennu am dîm rygbi buddugol Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ac yn tynnu sylw at y ffaith bod y sgwad Dan 21 hefyd wedi cyflawni’r un gamp, a bod yna felly lawer mwy o ‘filwyr daffodil’ yn dod i’r amlwg. Roedd yr ymadrodd yn gwneud i mi feddwl am Julian Cayo Evans, gŵr na wyddwn i fawr ddim amdano ar wahân i’r ffaith ei fod yn dipyn o ffigwr chwedlonol a bod ei arestio a’i erlyn wedi creu cryn argraff arnaf pan oeddwn yn blentyn. O ganlyniad i’r hyn a ganfûm amdano’n ddiweddarach rydw i’n cyflwyno’r darn hwn i’w goffadwriaeth. Cliciwch ar y ddolen hon os ydych am wybod rhagor o fanylion am Julian Cayo Evans a Byddin Rhyddid Cymru - y FWA - yn 1969. Roedd e’n dipyn o ddyn am y merched, yn ôl y wefan sy wedi’i lunio er cof amdano. Ond mae fersiwn y gwragedd o’r darn hwn wedi ei gyflwyno i’w ferch, Siân Dalis Cayo-Evans, gyda’r parch mwyaf. Argraffir mewn melyn daffodil ar wyrdd byddin 240-gram. Siersi cotwm100%. Pris: £27.00 (£31.73 yn cynnwys TAW)
|
CYMRAEG – ENGLISH
|