CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO


Cymru Hood

Nicole Cooke yw seiclwraig amlyca’r byd ar y ffordd yn ôl colofn ‘Unsung Heroes’, yng nghylchgrawn chwaraeon papur Sul, yr Observer, yn ddiweddar. Holai’r golofn pam nad oedd neb wedi clywed amdani a hithau’n Brydeinwraig?

Ar wahân i’r ffaith mai ychydig o ddiddordeb sy mewn seiclo gwragedd mewn unrhyw fan i’r gorllewin o’r Môr Udd, nid Saesnes ond Cymraes yw Nicole.  Enillodd y Grande Boucle, sef Tour de France y gwragedd, yn 2006 – gan arwain o’r dechrau i’r diwedd, a Phencampwriaeth Byd y Gwragedd am yr eildro o’r bron. Hi yw’r gorau sy ar gael ac efallai mai hi fydd y gorau a fu erioed.

Nid yw’r cyfryngau ‘cenedlaethol’ sy’n Seisnig eu hanian yn dangos fawr o ddiddordeb mewn llwyddiant ym myd y campau pan nad yw’n ymwneud â Saeson. Felly rwy’n llawn edmygedd o athletwyr Cymreig sy’n cystadlu dros eu gwlad yn arbennig pan mae’r disgrifiad ‘hanu o Gymru’ yn gyfystyr â dogfen deithio i ebargofiant ymhob man arall ar yr ynys hon.

Argraffir mewn coch ar wyrdd olewydd ar 340-gram 80% cotwm gwlanog a 20% polyester.

Pris: £20.00 (£23.00 yn cynnwys TAW)

Dewiswch eich maint:

Sgroliwch i lawr i ganfod dilledyn arall o'r un dyluniad.

 

 

CYMRAEG – ENGLISH

Crys T Cymru Gwragedd

Er cael ei geni’n dioddef o spina bifida, anabledd sy’n ymwneud â datblygiad anghyflawn o fadruddyn y cefn, Tanni Grey-Thompson yw athletwraig mwyaf llwyddiannus Cymru erioed. Ac mae’n bosib ei bod hi felly’n eithriad sy’n profi’r rheol.

Mae rhagoriaeth Tanni yn mynnu bod y cyfryngau 'cenedlaethol' yn rhoi ystyriaeth i’r ffaith mai hi yw un o’n athletwyr mwyaf poblogaidd a llwyddiannus. Ymhlith ei llwyddiannau mae rhes o recordiau byd, 11 o fedalau aur Olympaidd ac enillodd Farathon Llundain ar chwe achlysur.

Hi yw’r unig berson o Gymru i gael ei derbyn yn Academi Chwaraeon Byd Laureus - mudiad byd-eang sy’n annog cymryd rhan mewn chwaraeon - ar y cyd â phobl megis Michael Jordan, Pele, Michael Johnson a Martina Navratilova.

Argraffir mewn coch ar wyrdd olewydd 240-gram. Siersi cotwm 100%.

Pris £14.00 (£16.10 yn cynnwys TAW)

Dewiswch eich maint:

Sgroliwch i lawr i ganfod dilledyn arall o'r un dyluniad.

 

 

CYMRAEG – ENGLISH

Fest Cymru Gwragedd

Mae’n bosib bod seren Kelly Morgan wedi diffygio ychydig yn ddiweddar ond pan oedd yng nghyn roedd yn disgleirio’n llachar iawn yn wir. Cynrychiolodd ei gwlad am y tro cyntaf pan oedd yn 15 oed a datblygodd yn un o’r pump o chwaraewyr badminton gorau yn y byd.

Uchafbwynt gyrfa Kelly oedd ennill medal aur dros Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn 1998 pan ddringodd dros y seddau er mwyn dathlu gyda’i rhieni yn y gynulleidfa.

Efallai bod y wennol yn feddal ond pan welwch chi Kelly yn chwarae fe sylweddolwch fod badminton yn gêm hynod o gyflym.

Argraffir mewn coch ar wyrdd olewydd 240-gram cotwm gwlanog rib 100%.

Pris £14.00 (£16.10 yn cynnwys TAW)

Dewiswch eich maint:

 

 

CYMRAEG – ENGLISH