CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO


Crys T Claws Gwragedd

Pan oeddwn yn gwrando ar ‘Hours’ gan Funeral for a Friend wrth yrru dros y Bannau rhwng Llanelwedd a Merthyr yn ddiweddar, roedd yn fy nharo bod geiriau llwm a diwastraff Matt Davies, yn arbennig o’u clywed yn cael eu canu ar felodïau mor heintus, yn nodweddiadol o ochr dywyll yr anian Gymreig.

Ond o ail-feddwl rwy’n credu bod chwarae sicr ac aeddfedrwydd sŵn FFAF yn nodweddiadol o’r hyder o’r newydd sy i’w ganfod yng Nghymru heddiw. Mae ei sŵn yn fwy tebygol o’n hatgoffa o Arfordir Gorllewin yr Unol Daleithiau nac o Arfordir De Cymru ac mae pob dim sy’n ymwneud â nhw o’r cynhyrchu hyd at y label recordio (Atlantic) yn awgrymu llwyddiant ar raddfa enfawr.

Mae eu themâu’n gyfarwydd i blantach mewn trefi bychain ar draws y byd. Ac mae’r ysbrydoliaeth ar gyfer y darn hwn yn amlwg i bwy bynnag sy wedi gwrando ar gerddoriaeth Funeral for a Friend.

Argraffir mewn du, gwyn, coch a llwyd ar siarcol 240-gram. Siersi cotwm 100%.

Pris: £16.00 (£18.70 yn cynnwys TAW)

Dewiswch eich maint:

 

 

CYMRAEG – ENGLISH