| CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO |
Y Brand Esblygodd Red Dragonhood ar ôl i mi fynd ati i archwilio fy eidentiti. Yn union fel cynllunwyr eraill, rydw i wedi gorfod dilyn y dorth, ac felly rydw i wedi treulio’r rhan fwyaf o’m hoes oddi cartref. Mae hiraeth yn deimlad pwerus iawn a byth a beunydd rydw i’n cael fy nhynnu nôl i Gymru ac at fy ngwreiddiau. Ond, eto, prin fod yna ddiwydiant ffasiwn ar ôl yng Nghymru ers i ffatrïoedd Laura Ashley gau. Prin fod ffasiwn y stryd yn Lloegr yn rhoi unrhyw sylw i wlad fy nhadau. Dydw i ddim yn sôn am Haute Couture nawr ond yn hytrach rydw i’n sôn am y dillad a wisgir gan bobl ar y strydoedd. Wrth siopa ar hyd arcedau Caerdydd rhyw ddiwrnod cefais fy synnu o weld pa mor amlwg oedd y brand ‘One True Saxon’. Er ei fod yn frand o ansawdd ardderchog yn cael ei baratoi gan bobl dda sy’n gweithio’n galed, rhaid nodi mai’r hyn y mae’n ei gyfleu’n gryf yw Seisnigrwydd. Ni welais fawr ddim oedd o ddiddordeb i mi ymhlith y rhelyw o frandiau gwisgoedd cyfredol y stryd. Yn fy ngolwg i, ni welwn unrhyw bwrpas i Gymro neu Gymraes wisgo, er enghraifft, grys T yn arddangos rhif mewn maint anferth ac enw dinas yn Siapan – yn unol â’r ffasiwn yn Llundain wrth i mi sgrifennu’r darn hwn – a hynny am fod llun wedi cael ei dynnu o David Beckham yn gwisgo crys T o’r fath. Pwy yw David Beckham i ni? Po fwyaf y meddyliais am hyn po fwyaf y sylweddolais fod gen i rywbeth i’w ddweud: ynghylch hiwmor Cymreig, ynghylch materion gwleidyddol a chymdeithasol Cymreig, ynghylch hanes a diwylliant Cymru ac ynghylch ffasiwn yng Nghymru hefyd. Hawdd maddau i chi pe credech fod pawb yng Nghymru’n gwisgo dillad o liw coch bob amser. Er cymaint rydw i’n hoffi rygbi ac er mor falch rydw i o’n tîm cenedlaethol, dydw i ddim am fynd o gwmpas yn gwisgo crys sy’n brolio ein llwyddiant yn y Gystadleuaeth Chwe Gwlad ddwy flynedd nôl - ddim ar ôl y tymor diwethaf beth bynnag. Ac yn sicr, dydw i ddim ar fin hybu cwrw Brains heb gael fy nhalu am wneud, hyd yn oed os ydw i’n hoffi peint o SA nawr ac yn y man. Felly, euthum ati i greu label Cymreig. Po fwyaf o amser a dreuliwn wrth y gwaith po fwyaf y gwerthfawrogwn pa mor brydferth a phwysig yw’r iaith Gymraeg, a pha mor cŵl yw hi i fod yn Gymro mewn byd sy’n mynd yn fwy ac yn fwy unffurf o ganlyniad i globaleiddio. Yr hyn a welwch ar y gwefan hwn yw ffrwyth fy myfyrdodau. Rydw i’n gobeithio’n fawr y gwna eich goglais rhyw fymryn. Os nad ydych yn cytuno â rhyw sylw o’m heiddo, wel, mae hynny’n cŵl. Dim ond dweud fy marn a wnaf a dyw hynny ddim o dragwyddol bwys. Ond os yw fy ngwaith yn apelio atoch a petai ond un o’m cynlluniau’n taro tant, yna, mae hynny’n arbennig o cŵl. Diolch, fy anwyliaid, a chroeso i’r Red Dragonhood. Martin Davies
|
CYMRAEG – ENGLISH
|