Telerau ac Amodau
Ymwrthodiadau
- Rydym yn cadw’r hawl i newid, addasu, gwaredu neu gyfnewid unrhyw wybodaeth a ddangosir ar y safle hwn heb rybudd. Gall prisiau newid heb rybudd.
- Byddem yn gwerthfawrogi petai ein cwsmeriaid yn ein hysbysu am ddifrod neu ddiffygion o ran cyflwr nwyddau o fewn saith niwrnod ar ôl eu derbyn. Rydym yn eithrio cyfrifoldeb arnoch chi am golled neu ddifrod na ellid ei ragweld y byddech o bosib yn ei ddioddef o ganlyniad i’n perfformiad esgeulus ni o unrhyw wasanaethau a ddarparir ar eich cyfer ar wahân i fater o farwolaeth ac anaf personol. Nid yw hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol mewn perthynas â’r nwyddau.
- Rydych yn cydnabod bod pob mesuriad yn agos ati a bod pob atgynhyrchiad o liwiau mor gywir ag a ganiateir gan y broses ffotograffio, lluniadu a chynhyrchu.
Penawdau
Mae penawdau ar gyfer bwriadau cyfeirio’n unig ac ni ddylid eu cynnwys yn y telerau ac ni ddylid ystyried eu bod yn awgrymu ystyr y cymalau y maen nhw’n gysylltiedig â nhw.
Diogelu Data
- Trwy anfon archeb rydych yn caniat áu i ni brosesu gwybodaeth bersonol amdanoch ac i ddatgelu’r wybodaeth honno yn unol â’r hyn a ddywedir yn y cymal hwn. Mae gwybodaeth bellach ynghylch y modd rydyn ni’n prosesu’r wybodaeth amdanoch wedi ei osod allan yn ein polisi preifatrwydd.
- Medrwn ddefnyddio unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch a roddir i ni gennych chi neu a roddir i ni gan drydydd parti ac sy’n ymwneud â chi at unrhyw fwriad sy’n ymwneud â darparu ein nwyddau a’n gwasanaethau.
- Medrwn eich hysbysu trwy e-bost neu trwy’r post ynghylch nwyddau neu wasanaethau sy ar gael gan The Red Dragonhood. Petai’n well gennych beidio â chael gwybodaeth o’r fath cysylltwch â ni ar e-bost trwy’r cyfeiriad canlynol: unsubscribe@thereddragonhood.com
Medrwn ddatgelu unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch a roddir i ni gennych chi neu a roddir i ni gan drydydd parti sy’n ymwneud â chi ar gyfer:-
- unrhyw berson, ffyrm neu gwmni y byddwn o bosib yn gwerthu ein holl fusnes neu ran sylweddol ohono iddo/iddynt neu i bwy bynnag y byddwn ni o bosib yn trosglwyddo unrhyw rai o’n hawliau neu’n goblygiadau o dan y cytundeb hwn: a
- bwriadau i’n cynorthwyo i ddarparu ein nwyddau a’n gwasanaethau a chynnal a chadw a chefnogi unrhyw offer a ddefnyddir gennym y bydd gofyn i ni ddatgelu neu ddarparu mynediad i ddata personol yn ein meddiant yn ymwneud â chi i gyflenwr offer o’r fath neu unrhyw drydydd parti fydd yn darparu gwasanaethau cynnal a chadw a chefnogaeth. Gwneir unrhyw ddatgeliad neu fynediad o’r fath o dan delerau caeth o gyfrinachedd.
- Gall unrhyw ddatgeliad neu drosglwyddiad y cyfeirir ato uchod ddigwydd ar ffurf electronig yn defnyddio’r rhyngrwyd (neu fel arall).
- Gall y datgeliadau y byddwn ni o bosib yn eu gwneud yn unol â’r cymalau uchod o bosib yn ymwneud â throsglwyddo data personol yn ymwneud â chi i wledydd y tu hwnt i Ardal Economaidd Ewropeaidd ac mae’n bosib nad oes gan y gwledydd hynny reoliadau cymwys yn eu lle yn ymwneud â diogelu data a phreifatrwydd data personol.
Eiddo Deallusol
Mae pob hawl o ran dylunio’r safle, testun, graffeg a phob cynnwys arall, a threfniant a dewisiadau o’r rheiny’n eiddo i Former Heavy Industries Cyf.
Caniateir i chi gopïo neu argraffu darnau copi caled o’r safle’n unig ar gyfer gosod archebion gyda The Red Dragonhood. Gwaharddir yn llym unrhyw ddefnydd arall o’r deunyddiau ar y safle, gan gynnwys atgynhyrchu at fwriadau ar wahân i’r hyn a nodir uchod.
Mae The Red Dragonhood yn nod masnach sy’n eiddo i Former Heavy Industries Cyf.
Hawliau Trydydd Parti
Gwaharddir hawl statudol pob person ar wahân i chi neu ni i orfodi unrhyw un o’r darpariaethau hyn.
Gwahaniad
Os bydd unrhyw gymal yn gyfan gwbl neu’n rhannol yn cael ei ystyried i unrhyw raddau yn anghyfreithlon neu’n amhosib ei orfodi o dan unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol yna ystyrir na fydd y cymal hwnnw i’r graddau hynny yn ffurfio rhan o’r telerau hyn ac ni effeithir ar yr orfodaeth o weddill y telerau.
Ildiad
Ni fydd methiant ar ein rhan ni i weithredu unrhyw hawl neu gywiriad o dan y telerau hyn yn gweithredu fel ildiad o’r hawl neu’r cywiriad hwnnw ac ni fydd ildiad gennym ni o unrhyw dramgwyddiad o’r telerau hyn gennych chi’n gweithredu fel ildiad o unrhyw dramgwyddiad arall.
Aseiniad
Ni fedrwch aseinio na throsglwyddo na cheisio aseinio na throsglwyddo'r un o’ch hawliau na’ch goblygiadau o dan y telerau hyn heb ein caniatâd ni.
Cyfraith Lywodraethol
Bydd y telerau a’r amodau hyn yn cael eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr a chaiff unrhyw anghydfod ei chyfeirio at awdurdodaeth an-anghymhwysol llysoedd Cymru.