| CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO |
Ein gwarantiad Fe fyddwn yn ad-dalu pob pwrcasiad ar yr amod y caiff pob eitem a brynir eu dychwelyd yn eu cyflwr gwreiddiol o fewn 14 diwrnod ar ôl i chi eu cael. Byddwn yn barod i gyfnewid dilledyn am ddilledyn o faint arall, ac yn yr achos hwn ni fyddwn yn codi am ddosbarthu’r eilwaith. Sut i ddychwelyd neu gyfnewid eitemau? Nid oes angen i chi dalu am ddychwelyd eitem os ydych yn byw yng Nghymru neu’r Deyrnas Gyfunol. Llenwch y ffurflenni dychwelyd fydd wedi’u hargraffu ar gefn yr anfoneb er mwyn dweud wrthym pam rydych yn dychwelyd y nwyddau. Dychwelwch yr eitemau trwy ddefnyddio Gwasanaeth Parseli Safonol y Swyddfa Bost. Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r garden sy’n profi eich bod wedi postio (hefyd yn gynwysedig gyda’ch archeb) yn y Swyddfa Bost pan fyddwch yn dychwelyd nwyddau. Os ydych yn dychwelyd pwrcasiad o dramor, rydym yn anffodus yn methu derbyn eitemau y codir tâl mewnforio arnyn nhw. Er mwyn osgoi’r taliadau hyn, rydym yn eich cymell i beidio â defnyddio cwmnïau hebrwng megis DHL, Fedex neu UPS ond yn hytrach defnyddiwch wasanaeth llythyru cofrestru sy’n gofyn am lofnod pan gyrhaedda’r parsel. Nid effeithir ar eich hawliau statudol gan yr amodau hyn. Gallwch ein galw ni ar +44 (0)20 8202 0697 yn ystod oriau swyddfa (9.30am-5.30pm, Llun-Gwener) os ydych am wybod rhywbeth am nwyddau sy’n cael eu dychwelyd. Tu hwnt i oriau gwaith neu pan fydd y ffôn yn brysur, gallwch adael neges (byddwn yn cysylltu â chi o fewn 24 awr) neu e-bostiwch ni yn: returns@thereddragonhood.com
|
CYMRAEG – ENGLISH
|