CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO


Baner y bobi

Nid yw’r darn am Gymru Goch (gweler Gwŷr neu Gwragedd) wedi’i fwriadu i gynrychioli’r mudiad gwleidyddol o’r un enw. Ei fwriad yw adlewyrchu agwedd wleidyddol benodol a arferai fodoli yng Nghymru - ac efallai sy’n dal i fodoli i raddau llai.

Gallai’r defnydd o deipograffeg Lluniadiaethol, oedd yn rhan o ideoleg y 20au yn yr Undeb Sofietaidd, ac arwyddlun y morthwyl a’r cryman gael eu gweld fel beirniadaeth ysgafn o’r dogma Sofietaidd a oedd ar un adeg yn amlwg yn Ne Cymru, ond, dim yn fwy na hynny gobeithio. Da chi, peidiwch â chodi materion o drefn. Dydw i’n sicr ddim yn ystyried bod gen i fonopoli ar gyfiawnder.

Mae’r darn hwn wedi’i gyflwyno i fy nghyfaill, Craig Thomas nad yw, hyd y gwn i, erioed wedi bod yn aelod o Gymru Goch. Er hynny mae ganddo’r anrhydedd amheus o fod yr unig berson y gwn i amdano a oedd ar un adeg yn aelod o Blaid Gomiwnyddol Prydain.

Felly, fi sy’n ymdrybaeddu mewn ychydig bach o hwyl, a does dim angen i neb godi’i wrychyn. Yn ffodus, nid yw Craig, sy’n was digyfaddawd i gyfalafiaeth bellach, yn cymryd ei hun ormod o ddifrif.

 

CYMRAEG ENGLISH