| CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO |
Welsh Rabbit Deuthum ar draws nifer o ddamcaniaethau ynghylch tarddiad ‘Welsh Rabbit’. Noda’r wefan Cuisine du Monde.com, yn ei adran o dan y teitl ' Welsh Cuisine', gyda sicrwydd yr amen mai ystyr hollol lythrennol sydd i’r enw: "Welsh Rarebit, Rabbit or 'Caws Pobi' gets its name quite literally from the words rare (meaning very lightly cooked) and bit (a small piece or portion)". Hmmm... Tydw i ddim yn llyncu honna. Y seigiau eraill sy’n cynrychioli 'Coginio Cymreig', yn ôl Cuisine du Monde, yw Pice ar y Maen (Griddle Scones) a Phwdin Eryri (Snowdon Pudding). Tydw i ddim am fentro i’r cyfeiriad hwnnw am fy mod yn sicr bod y bwydydd syml hyn yn gynnyrch calon ostyngedig. Cafodd y Cymry eu herlid o’r nefoedd am eu bod yn baldorddi ac yn annheilwng yn ôl yr awdur, y teithiwr a’r ffisigwr o Sais, Andrew Boorde, o’r 16ganrif. Fe’u denwyd oddi yno gan Sant Pedr yn gweiddi "Caws Pobi, Caws Pobi". Pan ruthrodd y Cymry allan megis cenfaint o foch i’w flasu fe glôdd Pedr y gatiau o’u hôl ac felly teilyngodd iddo’i hun y swydd o Borthor y Nefoedd. Bu farw Boorde yng ngharchar Fleet yn 1549 ar ôl ymdeimlo â phangfeydd cydwybod a chael ei erlid gan ei elynion oherwydd ei ganfod yn brin yn y glorian o ran ei gywirdeb crefyddol. Yn ôl y sibrydion roedd wedi gwenwyno ei hun. Trueni. Mae’n bosib, debyg iawn, y gallai arllwys cwrw ar ben caws wedi llwydo a thostio bara sych i wneud pryd o fwyd cymharol flasus fod yn dderbyniol i dlodion ar eu cythlwng pan nad oedd cig cwningen ar gael. Ond, yn ôl pob tebyg, roedd yr enw wedi’i fwriadu i ddwyn anfri hiliol. Roedd defnyddio’r ferf ‘to welsh’ yn arfer cyffredin yn Lloegr yn ystod yr 17eg a’r 18fed ganrif i awgrymu ‘lladrata’ neu ‘anonestrwydd’ - ‘peidio â chadw addewid’ - neu fel ansoddair yn golygu ‘o ansawdd annerbyniol’ neu ‘dwyll llwyr’. Mewn oes pan wyddai pawb bron sut oedd maglu cwningen ar gyfer y crochan cawl roedd y Cymro’n cael ei ystyried mor ddiog a di-glem nes bod dal cwningen hyd yn oed y tu hwnt i’w allu. Dyna pam roedd yn rhaid iddo wneud y tro â bara a chaws. Ers Oes Victoria cyfeirir at y saig yn aml iawn mewn llyfrau ryseitiau fel "rarebit", term a luniwyd gan bobl nad oedden nhw, damed mwy na phobl dda Cuisine du Monde, yn gwybod nac yn deall pam y gelwid y saig yn 'rabbit'. Gwelwyd yr enw Rabbit mewn print am y tro cyntaf yn 1725 ac ar ôl 1785 y gwelir yr enw Rarebit. Dyma gyfarwyddyd Mrs Martha Bradley ar sut i baratoi 'Welch Rabbit', a gyhoeddwyd yn The British Housewife yn Llundain yn 1755: "Cut a handfome Piece of Bread and an even Slice of Cheefe, let the Bread be of the Shape of the Cheefe, put a little larger every Way. Put a salamander in the Fire, or a large Poker, or the Bottom of a Fire-Shovel heated red hot will do." Mae fersiwn mwy blasus o’r rysáit yn boblogaidd yn ardal Pas de Calais yng Ngogledd Ffrainc lle cyfeirir ato gan y trigolion lleol yn ôl yr enw 'Le Welsh'. Llwnc o Ch'ti ale, sy’n cael ei fragu yn Lille, sy’n dda i’w olchi i lawr y lon goch - er byddai gwydraid o Bullmastiff Son of a Bitch o Gaerdydd cystal bob tamed. Mae’n well gen i’r dylanwad Ffrengig ffasiynol yn y rysáit Americanaidd sydd i’w ganfod yn Epicurious.com. Prin fy mod yn bwyta’r un dim arall.
|
CYMRAEG – ENGLISH
|