CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO


Preifatrwydd

Rydym yn parchu eich diogelwch a’ch preifatrwydd ac mae’r polisi hwn yn gosod allan y modd rydyn ni’n delio â gwybodaeth amdanoch chi a’ch hawliau o ran y wybodaeth honno.

Pa wybodaeth rydyn ni’n ei gadw a sut ydyn ni’n cael gafael arno?

Yn gyffredinol rydym yn cael gwybodaeth gennych yn uniongyrchol pan fyddwch yn gosod archeb gyda ni i brynu ein nwyddau. Mae gwybodaeth o’r fath yn cynnwys eich enw, eich cyfeiriad a chyfarwyddyd o ran dosbarthu. Medrwch hefyd roi eich cyfeiriad e-bost os ydych am gael eich hysbysu o bryd i’w gilydd am ein nwyddau a’n gwasanaethau yn y dyfodol.

Pa ddefnydd wnawn ni o’r wybodaeth amdanoch?

  • i gyflawni ein goblygiadau cytundebol â chi ac i sicrhau y caiff nwyddau eu dosbarthu i chi mor effeithiol ag sy’n bosib
  • neu resymau eraill nad oes a wnelon nhw â chytundeb.

Medrwn ni, neu drydydd parti sydd ag enw da yn gweithredu ar ein rhan, ddefnyddio’r wybodaeth amdanoch:

  • i nodi a chadw cofnod o’ch pryniadau gyda ni
  • sicrhau bod y nwyddau a’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig yn briodol ar gyfer eich anghenion
  • i ymateb i unrhyw ymholiad y byddwch o bosib yn gwneud ynghylch ein nwyddau
  • i ddiweddaru ein systemau ar gyfer darparu gwell gwasanaeth ar eich cyfer.

Bwriadau eraill

Medrwn ddefnyddio gwybodaeth am eich cyfrif gyda ni ar gyfer monitro ein gwasanaeth cwsmer mewnol a bwriadau hyfforddiant

Gwerthiant ein busnes

Rydych yn cydnabod y gall data rydych yn ei ddarparu ar ein cyfer gael ei drosglwyddo i berson, ffyrm neu gwmni y byddwn ni’n gwerthu ein holl fusnes neu ran ohono iddo/iddynt neu i bwy bynnag y byddwn yn trosglwyddo unrhyw rai o’n hawliau neu’n goblygiadau sy o dan gytundeb gyda chi.

Cymryd gofal o’ch data

Byddwn yn ymdrechu i gadw pob gwybodaeth a fydd gennym amdanoch yn gywir ac wedi’i ddiweddaru. Er mwyn ein cynorthwyo yn hyn o beth, cofiwch ein hysbysu o unrhyw newid yn y manylion amdanoch.

Byddwn yn ymdrechu i ddiogelu eich data rhag defnydd anawdurdodedig neu anghyfreithlon ohono. Mae ein darparwr gwasanaethau talu, PayPal, yn defnyddio technoleg haenau soced diogel (SSL). Felly, pan fyddwch yn gosod archeb gyda ni ac yn talu trwy system archebu ar-lein ddiogel PayPal, bydd yr holl wybodaeth yn cael ei engryptio neu ei dameidio, gan wneud y data rydych chi’n ei anfon yn llythrennau sy’n ymddangos yn rhes anealladwy wedi’u gosod ar hap. Pan fydd gweinydd gwe PayPal yn cael y llythrennau hyn bydd ei feddalwedd haenau soced diogel yn eu trosi’n wybodaeth ddefnyddiol unwaith eto. Digwydd yr un peth i’r data fydd yn eich cyrraedd chi oddi wrth ei gweinydd nhw. Felly, fe gedwir eich gwybodaeth chi’n breifat gydol yr amser

Eithrio

Os nad ydych yn dymuno cael gwybodaeth am nwyddau a gwasanaethau a gyflenwir gennym, yna, e-bostiwch ni yn: unsudscribe@thereddragonhood.com neu cliciwch ar y ddolen hon i gysylltu â’n rhestr bostio a chliciwch ar y botwm UNSUBSCRIBE.

 

CYMRAEG – ENGLISH