CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO


Sut i archebu

Gellir ychwanegu eitemau at eich basged siopa wrth bori drwy’r tudalennau a thrwy ddewis maint a chlicio’r botwm ‘ADD TO BASKET’. O’r fasged medrwch naill ai ddal ati i bori neu fynd yn syth i’r man talu. Bydd y tudalennau talu yn eich tywys drwy’r broses. Byddwch yn medru dileu eitemau o’r fasged neu newid y nifer fyddwch am eu harchebu. Medrwch wirio’r eitemau yn eich basged trwy glicio’r botymau 'VIEW BASKET'.

Talu trwy PayPal.

Am nad oes gennym ddiddordeb mewn creu ymherodraeth ariannol fyd-eang mae’r broses o ddelio â chardiau credyd a debyd yn cael ei wneud gan PayPal. Mae PayPal yn cynnig yr amrediad ehangaf posib o ddelio â chardiau ac mae’n wasanaeth prosesu cardiau ar-lein cwbl ddiogel. Er mwyn hwylustod i chi, rydym wedi dewis yr opsiwn nad yw’n ofynnol agor cyfrif PayPal er mwyn gwneud un taliad ar hap i TheRed Dragonhood. Ar ôl i’r taliad gael ei dderbyn gennym, byddwch yn cael derbynneb oddi wrth PayPal. Byddwn yn anfon anfoneb gyda’r nwyddau.

Materion technegol er mwyn lleddfu eich pryderon.

Trwy PayPal, rydym yn medru derbyn Visa, Mastercard ac American Express a phob cerdyn debyd yn cynnwys Switch, American Express, Electron, Delta a JCB. Mae PayPal yn defnyddio technoleg haenau soced diogel (Socket Secure Layers). Felly, pan fyddwch yn gosod archeb gyda ni ac yn talu trwy system archebu ar-lein ddiogel PayPal, bydd yr holl wybodaeth yn cael ei engryptio neu ei dameidio, gan wneud y data rydych chi’n ei anfon yn llythrennau sy’n ymddangos yn rhes annealladwy wedi’u gosod ar hap. Pan fydd gweinydd gwe PayPal yn cael y llythrennau hyn bydd ei feddalwedd haenau soced diogel yn eu trosi’n wybodaeth ddefnyddiol unwaith eto. Digwydd yr un peth i’r data fydd yn eich cyrraedd chi oddi wrth ei gweinydd nhw. Felly, fe gedwir eich gwybodaeth chi’n breifat gydol yr amser. Nid yw The Red Dragonhood yn gweld y wybodaeth sy ar eich cerdyn credyd.

 

CYMRAEG – ENGLISH

 

 

 

 

Solution Graphics