| CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO |
Y Gwydr Hanner Llawn Ar hysbysfwrdd BBC Wales yn ddiweddar gwelais nodyn yn awgrymu y dylai’r Cynulliad Cymreig gomisiynu anthem genedlaethol arall yn benodol ar gyfer siaradwyr Saesneg. Wedi’r cyfan, dadleuai’r sgwennwr, mae’r mwyafrif o bobol Cymru naill ai ddim yn gwybod ystyr geiriau `Hen Wlad Fy Nhadau’ neu’n methu eu hynganu nhw’n gywir. Ar ôl syllu ar resymeg garcus y rhes o wrthddadleuon am ychydig funudau er mwyn ceisio deall beth yn union oedd gan awdur yr awgrym o dan sylw, fe atebais, wel, ie, syniad ardderchog. A pham ddim comisiynu fersiwn Gymraeg o ‘God Save the Queen’ tra bo'r cyfansoddi ar y gweill? Roeddwn i o’r farn, chi’n gweld, fod gan bwy bynnag a feddyliodd am y syniad, yr un natur gellweirus ag sy gen i. Yna, deuthum ar draws tywyslyfr i Gaerdydd ar safle cyhoeddus arall oedd wedi ei ddarparu gan rywun lleol ar gyfer ymwelwyr. Sgrifennai’r awdur yn wybodus gan nodi’r myrdd o gyfleoedd siopa sy yng nghanol y ddinas ond yr unig wendid, meddai, oedd bod “yr iaith Gymraeg yn cael ei gwthio lawr eich corn gwddf” yng ngorsaf rheilffordd Caerdydd Canolog. Gwell, felly, osgoi’r trên ar bob cyfrif! Buasech yn meddwl y byddai gan bwy bynnag sy ag amser i sgrifennu tywyslyfr cynhwysfawr ar-lein, a hynny’n ddi-dâl, yr amser i ddysgu ychydig bach o Gymraeg. Mae’n siŵr bod yr awdur o’r un genhedlaeth â’m rhieni a heb deimlo unrhyw gymhelliad i fynd ati i ddysgu’r iaith. Yr iaith Gymraeg yw’r hyn sy’n ein huno ac yn ein diffinio fel cenedl. Mae’n bosib bod y Cynulliad yn ddraig nad yw’n bytheirio tân ar hyn o bryd ond mae’n cynrychioli ffocws ar gyfer ein heidentiti cenedlaethol. (Mae’n bosib ei bod yn beth da nad yw’n fwy na siop siarad ar hyn o bryd oherwydd byddai’n fater o bryder petai pŵer go iawn yn cael ei roi yn nwylo’r genhedlaeth bresennol o wleidyddion.) Yn y tymor hir, fe ddylai’r Cynulliad ddatblygu’n llywodraeth Cymru annibynnol ac yn rhan o ffederaliaeth yr Undeb Ewropeaidd. Efallai fy mod yn anghywir, ond rwy’n argyhoeddedig ein bod yn barod am genedligrwydd. Dydw i ddim yn dweud y dylen ni roi’r gorau i siarad Saesneg. Mae’n rhaid inni’r Cymry fod yn gwbl ddwyieithog, yn union fel llawer o Ewropeaid eraill sy’n defnyddio’r Saesneg ar gyfer cynnal busnes. Saesneg yw iaith arian ac mae hynny’n briodol am fod diwylliant Seisnig yn ddiwylliant sy wedi’i seilio i raddau helaeth ar gybydd-dod. Fedrwch chi ddim beio pobl am chwennych gwell bywyd a sicrwydd ar gyfer eu teuluoedd. Ond mae Llundain erbyn hyn yn debyg i Dubai heb yr haul. Mae pawb yno er mwyn yr arian. Mae rhinwedd honedig y Saeson o oddefgarwch - dwi’n defnyddio’r gair 'honedig' achos prin iddyn nhw fod yn oddefgar tuag at y Cymry’n hanesyddol - wedi golygu eu bod wedi goddef gweld eu diwylliant yn cael ei gymathu’n rhan o ddiwylliannau’r gwledydd hynny y buom ni’n eu cynorthwyo i goncro. Nawr, mae Dwyrain Ewrop yn ymuno â’r cyfuno hwn ac mae’r dosbarth canol Seisnig, gyda’u cywirdeb gwleidyddol a’u cartrefi gwyliau ym Mannau Brycheiniog, yn drwsgl dderbyn colli eu heidentiti yn gyfnewid am fwy o gyfoeth a nani o Wlad Pwyl. O ganlyniad mae’r dosbarth gweithiol Seisnig yn teimlo eu bod wedi colli grym. Gŵyr y dosbarth gweithiol Cymreig am y teimlad hwnnw’n dda. Dydw i ddim yn edrych ar Gymru trwy wydrau rhosliw, nad wyf, wir, ond, yn eironig, mae rhai o’i hanawsterau’n wrthglawdd rhag cyfuno diwylliannol, megis, er enghraifft, ei thirwedd sy i raddau helaeth yn wledig. Mae diwylliant Cymraeg yn ffynnu a’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn ymledu. Hwyrach bod hyn yn esbonio pam y ceir cwynion gan y rhai hynny sy’n rhy bwdr i ddysgu’r iaith. Gwna hynny i mi feddwl a wna’r Cymry fyth eto – siaradwyr Cymraeg a siaradwyr Saesneg fel ei gilydd – dderbyn Sais i’w arwisgo’n Dywysog Cymru. William, er enghraifft? Mae’n bosib y byddai fy mam o blaid hynny ond a fyddai’r mwyafrif ohonom? Hoffwn awgrymu ein bod yn barod am genedligrwydd petaem yn gwrthod.
|
CYMRAEG – ENGLISH
|