CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO


Crys T Tiger Bay Whailers

Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer y darn hwn yn ôl pob tebyg oddi wrth y Wurriyas, y band tw tôn yn nofel John Williams, Cardiff Dead. Neu efallai fy mod wedi fy ysbrydoli wrth wylio’r tyrfaoedd yn cerdded ar hyd ysblander cŵl Bae Caerdydd ar noson gynnes o haf.

Yn wahanol i’r getoau ar wahân sy’n amlwg yn ninasoedd Lloegr heddiw roedd Tiger Bay – fel y gelwid ardal Butetown o Gaerdydd yn answyddogol ar un adeg – yn batrwm o gydfyw hiliol. Yn yr hen amser byddai morwyr o bob rhan o’r byd yn ymsefydlu yn ardal y dociau, yn priodi ymysg ei gilydd ac yn cychwyn bywydau newydd gyda’i gilydd.

Dyw hynny ddim i ddweud nad oedd yn le caled a garw. Ond gall tlodi a dieithriwch ddod â phobl at ei gilydd. Roedd pobl Tiger Bay'n amsugno diwylliannau ei gilydd ac ar yr un pryd yn cymathu â diwylliant De Cymru a’r Cymoedd.

Mewn gwirionedd, fodd bynnag, roedd Tiger Bay yn llawn o dai teras mewn cyflwr gwael, puteindai, tafarndai amheus a thai hap chwarae a phrin y gellir bod yn sentimental ynghylch hynny. Mae datblygiad Bae Caerdydd wedi trawsffurfio Caerdydd yn brifddinas y gellir ei chymharu ag eraill ar hyd y byd. Ond roedd yr enw "Tiger Bay" mor llawn o swyn.

Meddyliais am y "Wailers", fel yn "Bob Marley and the...” ond roedd pobl sy’n hela morfilod yn swnio’n fwy anturus ac egsotig ac mae’r deipograffeg yn gweithio’n well.

Argraffir mewn gwyrdd ar felyn 165 gram. Siersi cotwm 100%.

Pris: £18.00 (£20.70 yn cynnwys TAW)

Dewiswch eich maint:

 

 

CYMRAEG – ENGLISH