| CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO |
Crys T Hit by the Taffia Does dim dwywaith bod A. Llewellyn Morris Humphrey, a adwaenid hefyd fel 'Murray the Hump', yn ddyn drwg iawn ond roedd e’n ddyn clyfar iawn hefyd. Ganwyd Humphrey yn Chicago a hanai ei rieni o Lanidloes, yng Nghanolbarth Cymru, a daeth yn brif lefftenant i Al Capone. Roedd yn un o’r troseddwyr mwyaf llwyddiannus erioed. Murray drefnodd y modd roedd y ‘mob’ yn treiddio i fusnesau cyfreithlon a dywedir bod ymadroddion megis “money laundering” a “being taken to the cleaners” yn tarddu o’r modd y llwyddodd i lygru’r busnes glanhau dillad. Disgrifiwyd Murray fel ‘Public Enemy Number One’ yn America ar ôl i Capone gael ei garcharu yn 1933. Bu farw yn 1965 yn 66 oed ond nid mewn cawod o fwledi nac yn y gadair drydan ond o drawiad ar y galon. Dim ond unwaith y cafodd ei garcharu a hynny am fân drosedd o osgoi talu treth incwm ar ddechrau’r 1930au. Pan ysgrifennais y darn hwn roeddwn yn pensynnu ynghylch sgript ar gyfer ffilm am droseddwyr wedi’i gosod ym Mae Caerdydd yn hytrach na Chicago gyda Rhys Ifans yn chwarae rhan Humphrey. Argraffir mewn coch ar wyrdd olewydd 165-gram. Siersi cotwm 100%. Pris: £18.00 (£20.70 yn cynnwys TAW)
|
CYMRAEG – ENGLISH
|