CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO


Crys T Saunders Says

"Ni fydd adfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru yn ddim llai na chwyldro. Dim ond trwy ddulliau chwyldro y medrwn ni lwyddo." Dyna ddywedodd Saunders Lewis, y llenor Cymraeg a’r chwyldroadwr, 1895 - 1985.

Cefais innau, yn union fel Lewis, fy ngeni i deulu Cymreig a oedd yn byw yn Lloegr. Yn wahanol i Lewis, dydw i ddim yn siarad yr iaith – ddim eto beth bynnag, ond mae’n siŵr y gwna Teach Yourself Welsh, ac ychydig o ymdrech ar fy rhan i, gywiro hynny. Fodd bynnag, medraf werthfawrogi gweledigaeth Lewis a’r strategaeth a ddeilliodd o’i waddol rhyfeddol.

Mae’r ffaith bod dau gystadleuydd ar raglen Big Brother Channel 4 yn medru siarad â’i gilydd yn Gymraeg a bod y darlledwr wedi defnyddio isdeitlau’n hytrach na gwahardd y defnydd o’r iaith yn dystiolaeth o’r hyn mae Saunders Lewis wedi’i gyflawni.

Mae gennym gyfle i uno y tu cefn i un o ieithoedd hynaf Ewrop. Ac yn union fel llawer o Ewropeaid eraill fe wnawn ein harian trwy ddefnyddio’r Saesneg. Mae gan bob un ohonom ddyletswydd genedlaethol i fod yn rhugl yn y Gymraeg. Mae mor bwysig â hynny o ran ein hail-eni fel cenedl annibynnol.

Mae’n amlwg bod y darn hwn yn barodi o’r crys Katharine Hamnett hwnnw a ddyluniwyd ar gyfer yr hyrwyddwr Paul Morley a’r band Frankie Goes to Hollywood yn 1983. Hyd yn oed os nad ydych yn cofio’r gwreiddiol, rydw i’n credu bod y darn hwn yn dal yn effeithiol.

Argraffir mewn du a choch ar wyn 165 gram. Siersi cotwm 100%.

Pris £18.00 (£20.70 yn cynnwys TAW)

Dewiswch eich maint:

 

 

CYMRAEG – ENGLISH