| CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO |
Crys T Du R Goch Mae The Red Dragonhood yn ymwneud â pherthyn. Mae’n ymwneud ag eidentiti. Mae’n ymwneud â brawdgarwch (a chwaergarwch). Mae’n ymwneud â balchder. Mae’n ymwneud â pharch tuag at ein gilydd. Mae’n ymwneud â theimlad. Mae’n ymwneud â hwyl. Mae’n ymwneud â bod yn cŵl. Mae’r darn hwn wedi’i gyflwyno i ŵyr Harlech, i ddynion Pumlumon, i Ferched Beca, i Feibion Glyndŵr, i derfysgwyr Merthyr, i ddynion MAC a’r FWA, i ddynion yr NUM a’r ISTC, i’n tadau a’u tadau nhw a’u tadau nhw eto nôl hyd at ddechrau amser. Mae hefyd wedi’i gyflwyno i bob dyn a dynes erioed a wisgodd grys coch Cymru ac i bob un o’r bodau dynol bondibethma hynny sy wedi gweiddi, “Dewch mlân Cymru!” mor uchel ag y medran nhw. Cymru am byth! Argraffir mewn coch, llwyd, coch a du ar ddu siersi cotwm 100%. Pris: £22.00 (£25.30 yn cynnwys TAW)
Sgroliwch i lawr i ganfod dilledyn arall o'r un dyluniad.
|
CYMRAEG – ENGLISH
|
Crys T Gwyn R Goch Yr un dyluniad ag uchod ond wedi’i argraffu mewn du a choch ar wyn siersi gotwm 100%. Pris: £22.00 (£25.30 yn cynnwys TAW)
|
CYMRAEG – ENGLISH
|