| CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO |
Crys T Tywysog Cymru Charlotte Church yw Tywysoges Cymru de facto. Mae hynny’n gwneud Gavin Henson yn Dywysog Cymru. Ar ôl ei berfformiad yn nhîm buddugol y Chwe Gwlad mae hynny’n ddigon teg. Nid wyf yn edmygydd mawr o’r frenhiniaeth nac o selebs chwaith o ran hynny ond ni fedraf beidio ag ymserchu yn Charlotte a Gavin. Mae’n debyg bod Gavin yn rhyw fath o Albert a Charlotte yn rhyw fath o Victoria – cymhariaeth anffodus, rydw i’n gwybod, ond dyna’r unig un a fedraf feddwl amdani o gofio nad oes gennym deulu brenhinol brodorol – am ei fod yn bartner i ddynes garismataidd a phwerus ond eto mae’n ymddangos yn dal i gynnal ei hunaniaeth ei hun. Mae Gav bron ar ei ben ei hun wedi codi delwedd rygbi Cymru i fod yn cŵl, ond un o sgil effeithiau anffodus bod yn seleb ym myd chwaraeon yw bod perfformiadau’n aml iawn yn eilbeth o ran pwysigrwydd i’r brand. Gadewch i ni obeithio ei fod yn deall mai hanfod prydferthwch yw cic gosb 44 metr llwyddiannus sy’n curo Lloegr ac nid potel o liw haul ffug neu dwbyn o saim gwallt. Er mwyn Gav mae’r crys hwn wedi’i ddylunio i’w wisgo yng nghwmni dynes eofn yn gwisgo crys Tywysoges Cymru o gasgliad y gwragedd. Argraffir mewn du, aur a choch ar lwyd golau 165-gram. Siersi cotwm 100%. Pris: £16.00 (£18.40 yn cynnwys TAW)
|
CYMRAEG – ENGLISH
|