CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO


Crys T Môrladron Pwllheli

Ar ddiwrnod tyngedfennol yn 1566 gollyngodd llong fasnach Iseldiraidd oedd yn cludo siwgr, triagl, crwyn geifr a deunyddiau eraill o Ogledd Affrica i Antwerp, ei hangor oddi ar Ynysoedd Tudwal, dwy ynys fechan ychydig filltiroedd i’r gorllewin o Bwllheli. Roedd y llong wedi crwydro oddi ar ei llwybr morwrol am fod môrladron wedi’i chipio.

Gwerthwyd yr ysbail gan y môrladron i drigolion Pwllheli a oedd yn brin o nwyddau beth bynnag. Ar ôl pocedi’r elw diflannodd y criw i gyfeiriad y machlud gan adael dau frawd lleol, Jevan a Richard ap Meredith i wynebu’r grocbren.

Ar hyn o bryd mae Asda wrthi’n cyflawni gweithred debyg am eu bod yn bwrw ati’n ddihidiol o’r broses gynllunio er mwyn codi archfarchnad a fydd yn sicrhau elw i’w cyfranddalwyr Wal-Mart yn yr Unol Daleithiau.

Er y bydd gan Bwllheli nawr hwylustod archfarchnad ar ei rhiniog bydd hynny’n golygu y collir llawer o fusnesau bychain Cymreig a arferai gyflwyno arian nôl i’r economi lleol. Dyna chi beth yw globaleiddio.

Argraffir mewn gwyn a choch ar ddu 165-gram. Siersi cotwm 100%.

Pris: £20.00 (£23.00 yn cynnwys TAW)

Dewiswch eich maint:

 

 

CYMRAEG – ENGLISH