| CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO |
Crys T Clwb Beiciau Modur I mi mae rasio beiciau modur ar hyd y ffyrdd, a’r holl fywydau sy’n cael eu colli, yn anacroniaeth yn y byd modern. Ond wedyn mae’n rhaid i mi gyfaddef bod y beiciwr-ar-y-ffyrdd Cymreig, Ian Lougher yn ddyn dewr iawn. Mae Chaz Davies, y beiciwr Grand Prix Cymreig, yn yrrwr talentog a dewr yn ddi-os ond mae Lougher wedi’i wneud o’r un defnydd ag arwyr. I rasio ar hyd ardal lle nad oes lle i ddianc a heb waliau na chloddiau a chelfi’r stryd yn hedfan heibio, a hynny ar gyflymdra hyd at 175mya, mae’n rhaid wrth galon llew a cheilliau o ddur. Enillodd Ian unwaith eto yn Ynys Manaw yn 2005, ar achlysur pan gollodd chwech o bobl eu bywydau. Roedd ei gyfartaledd cyflymdra dros y cwrs 39-milltir dros 120myw. Y cyfartaledd cyflymdra pan enillwyd y ras TT gyntaf yn 1907 oedd 38mya. Os ydych yn gwneud camgymeriad ar gyflymdra o’r fath does dim osgoi angau. Yn y TT mae’r gyrwyr yn cystadlu mewn ysbryd o gyfeillgarwch a chwarae teg y byddai Hemingway wedi’i edmygu. Ond mae Hemingway wedi hen fynd ac felly ddylai fod yn hanes rasio beiciau modur ar y ffyrdd hefyd. Argraffir mewn gwyn, coch a brown ar ddu 165-gram. Siersi cotwm 100%. Pris: £22.00 (£25.30 yn cynnwys TAW)
|
CYMRAEG – ENGLISH
|