| CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO |
Crys T Hiraeth Tua chwe blynedd nôl cefais wahoddiad gan Deledu Sky i weld gornest focsio rhwng Lennox Lewis a Frank Bruno, a gynhelid yn yr awyr agored yn yr hen Barc yr Arfau ym mis Hydref. Peidiodd y glaw am getyn digon hir i alluogi Lewis i roi crasfa i’r Bruno truenus ac roedd yr ornest ei hun drosodd mewn dim o amser. Roedd yr amgylchiad yn rhyfedd am fod y Cymry lleol llawn chwilfrydedd yn y seddau rhad yn yr entrychion, filltiroedd o’r sgwâr, a’r cefnogwyr bocsio go iawn, y mwyafrif o Ddwyrain Llundain, yn eistedd ar y cae. Roedd y seddau prisiau canolig yn gwbl wag. Cyn i’r ornest ddechrau chwaraewyd ‘Hen Wlad fy Nhadau’. Roedd yna fôr o ganu i’w glywed yn y seddi yn yr entrychion ond o’m cwmpas, yn y rhesi blaen, roedd yna fudandod llwyr. Yr eiliad honno roeddwn i am fod gyda’r bechgyn yn yr entrychion. Mae ‘hiraeth’ yn air mor brydferth, o ran ei sŵn a’i ystyr. Gwn fy mod wedi tynghedu i beidio â bod yn sentimental ac ystrydebol, ond i mi, mae gwrando ar recordiad Richard Burton o ‘Under Milk Wood’ gan Dylan Thomas yn creu’r emosiwn Cymreig unigryw hwn. Argraffir mewn inc gwyn adweithiol ar las golau 165-gram. Siersi cotwm 100%. Mae’r broses hon yn creu effaith sy’n edrych fel petai’r teip wedi’i gannu i mewn i’r crys (oherwydd mai dyna wnaed). Pris: £17.00 (£19.55 yn cynnwys TAW)
|
CYMRAEG – ENGLISH
|