CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO


Crys T Dai Lama

'Dai Lama' yw’r ffugenw a ddefnyddir gan fy nghyfaill Richard Jones pan fydd yn aros mewn gwestyau. (Wel, dyna oedd ei ffugenw er mwyn bod yn anhysbys! Mae’n ddrwg gen i Rich.)

Datgelodd hyn wrthyf pan oeddem yn mynd am dro ar hyd Mynwent Highgate un prynhawn ac fe arhosodd y wybodaeth yn fy mhen, fel y mae materion o’r fath yn tueddu i wneud. Y pnawn hwnnw fe fuom ni’n oedi wrth fedd Karl Marx a gyhoeddodd Faniffesto’r Comiwnyddion yn 1848 a Das Kapital yn 1867, dau lyfr a fu’n herio Cristnogaeth Gymreig ar y pryd.

Mae’r llysenw 'Dai Lama' yn gyfeiriad at ddiddordeb Rich mewn Bwdïaeth. Mae’n fy nharo i, oni bai am y Diwygiad Cristnogol yn 1904-05, a fu’n fodd o wrthsefyll y diddordeb cynyddol yn yr athroniaeth Gomiwnyddol, gellid fod wedi hyrwyddo Bwdïaeth fel y grefydd berffaith ar gyfer yr anian Gymreig. Trafodwch…

Argraffir mewn glas brenhinol ac aur ar goch Tibetaidd 165 gram. Siersi cotwm 100%.

Pris: £23.00 (£26.45 yn cynnwys TAW)

Dewiswch eich maint:

 

 

CYMRAEG – ENGLISH