| CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO |
Cymru Hoody Yn groes i’r gred gyffredin, fyddai Ryan Giggs ddim wedi medru chwarae dros dîm pêl-droed Lloegr. Chwaraeodd dros dîm Ysgolion Lloegr am ei fod mewn ysgol yn Lloegr ond cafodd ei eni yng Nghaerdydd ac roedd ei rieni’n Gymry a’u rhieni hwythau. Mae chwarae unrhyw gêm dîm, ar wahân i rygbi’r undeb, ar lefel rhyngwladol dros Gymru yn gyfystyr â gwisgo coron o ddrain, a dyna sy’n esbonio teipograffeg y darn hwn. Mae Ryan wedi dangos yr un ymrwymiad tawel tuag at Gymru ag y mae wedi’i ddangos tuag at Manchester United. Ac er mai fe yw’r chwaraewr sy wedi ennill y nifer mwyaf o anrhydeddau gyda’i glwb, - wyth pencampwriaeth yr Uwch Gynghrair, Cynghrair y Pencampwyr ar un achlysur a Chwpan yr FA ar bedwar achlysur - ni wnaiff fyth ennill anrhydeddau o’r fath dros ei wlad. Argraffir mewn coch ar wyrdd olewydd 320-gram cotwm gwlanog 80% a pholyester 20%. Pris: £34.00 (£39.10 yn cynnwys TAW)
Sgroliwch i lawr i ganfod dilledyn arall o'r un dyluniad.
|
CYMRAEG – ENGLISH
|
Crys T Cymru Ni wna Simon Jones a Geraint Jones ennill anrhydeddau dros eu gwlad chwaith, ond am resymau gwahanol. Bwrdd Criced Cymru a Lloegr sy’n gweinyddu’r gêm a “Lloegr” yw’r tîm sy’n ennill y Lludw. Mae Jones y bêl, bowliwr mwyaf effeithiol y tîm, a Jones y menig, y wicedwr, ill dau’n Gymry. (Er i’r wicedwr gael ei eni ym Mhapua Guinea Newydd - sy mae’n debyg yn ei wneud yn rhyw fath o ganibal Cymreig). Argraffir mewn coch ar wyrdd olewydd 165-gram. Siersi cotwm 100%. Pris: £19.00 (£21.85 yn cynnwys TAW)
|
CYMRAEG – ENGLISH
|