| CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO |
Crys T Cowbois Caerfyrddin Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer y crys hwn ar ôl darllen erthygl am werthiant Gwartheg Duon Cymreig ar faes Sioe’r Siroedd Unedig yng Nghaerfyrddin. Yn gynharach yr un diwrnod darllenais rywbeth am y Brenin Iago I o Loegr yn rhoi siartr i Gaerfyrddin a oedd, ymhlith hawliau eraill, yn cyhoeddi y dylai’r dref gael dau siryf. Er bod yr hawl hwn wedi’i gyfyngu i un siryf yn 1835 deil swyddogaeth y siryf hyd y dydd heddiw. Yn fy ngolwg i mae’n rhaid bod gan dref sydd ag eisoes wartheg a siryf gyflenwad o gowbois hefyd. Cadarnhawyd hynny pan ddarllenais erthygl arall eto fyth, ar wefan Cyngor Sir Gâr y tro hwn, am fenter llywodraeth leol i warchod defnyddwyr rhag adeiladwyr diffygiol. Nawr, synna i’n gallu gwaredu o’m mhen y ddelwedd hon o Gaerfyrddin megis rhan o’r Gorllewin Gwyllt. Os caiff cyfreithwyr eu diarddel a chlerigwyr eu diurddo, yna, mae’n rhaid gen i y caiff cowbois eu dilorni. Peidiwch â phlygu os ydych yn dal i wisgo’ch sbardunau bois. Ye-ha! Argraffu mewn brown siocled a du ar oren wedi’i losgi 165-gram, 100% siersi cotwm cribedig. Pris: £21.00 (£24.15 yn cynnwys TAW)
|
CYMRAEG – ENGLISH
|