| CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO |
Crys T Cawr ‘Dyn petraidd’ 10 troedfedd o daldra yw Cawr Caerdydd a ganfuwyd ar 16 Hydref, 1869, gan weithwyr yn cloddio ffynnon ar fferm yng Nghaerdydd, Efrog Newydd. Lledaenodd yr hanes am y ‘canfyddiad’ yn sydyn a daeth miloedd o bobl o bell ac agos i dalu 50 sent i’w weld. Er i arbenigwyr ddynodi’n ebrwydd mai twyll oedd y cawr roedd ffwndamentalwyr Cristnogol yn cyhoeddi ei ddilysrwydd ac roedd yr ymwelwyr yn dal i heidio i’w weld. Cynigiodd y trefnydd sioeau, P T Barnum, brynu’r cawr a phan wrthodwyd ei gynnig arddangosodd gopi plastr yn Efrog Newydd, a hawlio mai hwnnw oedd y cawr dilys tra bo’r cawr gwreiddiol mewn gwirionedd yn ffals. Penderfynodd perchnogion Cawr Caerdydd fynd â’r mater i gyfraith ond dyfarniad y barnwr oedd na ellid erlyn Barnum am iawndal am alw cawr ffals yn ffals. O ddeall bod pobl yn talu i weld fersiwn ffals Barnum o gawr ffals dywedodd un o berchnogion y cawr ffals gwreiddiol, “Fe enir un bob munud sy’n barod i gael ei dwyllo.” Yn eironig, caiff y sylw hwn nawr ei dadogi’n anghywir i Barnum. Tobacynydd o Efrog Newydd o’r enw George Hull greodd y twyll ac yn y pen draw, i bob pwrpas, cyfaddefodd hynny yn y llys. Argraffu mewn du, gwyn a coch ar gymysgwch siarcol 175-gram, 60% cotwm cribedig, 40% siersi polyester. Pris: £22.00 (£25.30 yn cynnwys TAW)
|
CYMRAEG – ENGLISH
|