| CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO |
Crys T Bred in Heaven Arferwn gredu bod Nick Foulkes, y newyddiadurwr a’r awdur, a’r 39ain Dyn Mwyaf Trwsiadus ym Mhrydain yn ôl y cylchgrawn GQ, yn Sais swanc. Mewn gwirionedd mae’n Gymro gloyw, wir i chi. Mae gan Nick ffordd arbennig o drin yr iaith Saesneg. Ysgrifennodd ddarn rhywbryd oedd yn dweud, os cofiaf yn iawn, mai dim ond ar ôl tynnu’r bachgen mas o’r Cymoedd y mae’n blodeuo go iawn. Ystyriwch y diwydiant ffasiwn am eiliad. Mae’n anodd dychmygu Jeff Banks, Julien Macdonald neu David Emanuel a’u tebyg yn llwyddo yng nghanol amgylchfyd llymeitian ac olion smygu-ar-fysedd eu cynefinoedd. Mae’n gywilydd eu bod wedi gorfod mynd i Lundain cyn blodeuo. Rydw i’n dychmygu nad oes yr un crys T yng nghwpwrdd dillad y-39ain-gorau-ym-Mhrydain Nick – o’i weld yn ei siwtiau Saville Row nid yw’n fy nharo fel gwisgwr crysau T rhywsut – felly, mae’r darn hwn wedi’i gyflwyno i Nick. Argraffir mewn gwyn a choch ar ddu 165 gram. Siersi cotwm 100%. Pris: £22.00 (£25.30 yn cynnwys TAW)
|
CYMRAEG – ENGLISH
|