| CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO |
Crys T Marchfilwyr Coed-duon Pan fethodd gwrthryfel y Siartwyr yn 1839, bu rhaid i gnaf adnabyddus o’r enw Daniel Jenkins ffoi o’r Coed-duon, y man lle cychwynnodd yr ymdaith dyngedfennol honno i Gasnewydd. Yn hytrach na wynebu alltudiaeth i Dasmania, y gosb a ddioddefodd arweinydd y Siartwyr, John Frost, gweithiodd ei ffordd i America a chyrraedd Tecsas, a oedd newydd ennill rhyfel i dorri’n rhydd wrth Mecsico. Er nad oedd ganddo brofiad milwrol o fath yn y byd, ar wahân i fartsio gyda chriw o Siartwyr gydag ond coes picas yn arf, mentrodd ymrestru gyda chriw o ddynion a godwyd gan yr Arlywydd Sam Houston o dan Gapten John Coffee ‘Jack’ Hays i weithredu fel ‘Marchfilwyr’ yn nhiroedd eang y gwastadeddau. Fe’u gelwid yn Farchfilwyr Tecsas am eu bod, yn y dyddiau cynnar hynny, yn marchogaeth ar draws eangderau meithion yn gweithredu fel parafilwyr yn dygymod ag ymosodiadau’r Indiaid a chyrchoedd o Fecsico yn hytrach na gweithredu fel swyddogion yn gorfodi cyfraith a threfn. Beth bynnag, mae’r crys hwn wedi’i gyflwyno i Daniel Jenkins, y cyntaf a’r olaf o Farchfilwyr Coed-duon. Argraffu mewn du ac aur ar frown gwinau 165-gram, 100% siersi cotwm cribog. Pris: £20.00 (£23.00 yn cynnwys TAW)
|
CYMRAEG – ENGLISH
|