| CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO |
Crys T Bethesda Mae diffyg consyrn yr awdurdodau ynghylch lles trigolion Eryri yn ystod y chwarter canrif bron ers i ddeunydd ymbelydrol gael ei ollwng arnynt ar ôl y ddamwain niwcliar yn Chernobyl yn warthus. Digon gwir fod mwy o ddefaid nag o bobl yn yr ardal ac, ydyn, maen nhw’n cynnal yr economi lleol, ond roedd rhoi profion iechyd llym i’r defaid heb wneud dim i ymchwilio i’r cyfraddau uwch na’r cyfartaledd o ganser ymhlith y bobl, yn awgrymu nad oedd y blaenoriaethau’n gywir. Mae llwch ymbelydrol yn anweledig ac yn groes i’r gred gyffredin nid yw’n tywynnu. Felly, dwi’n poeni rhyw ychydig fy mod trwy ddefnyddio inc sy’n tywynnu mewn tywyllwch, i ysgrifennu’r darn hwn, rydw i o bosib yn bychanu mater difrifol. Dyma’r dull gorau y medra i feddwl amdano o’i wneud yn bwnc llosg. Os ydych am fwy o wybodaeth am Chernobyl a’i effaith ar Ogledd Cymru cliciwch ar y ddolen hon er mwyn mynd i Llwch Ymbelydrol. Argraffir mewn du, gwyn, brown ac inc sy’n tywynnu-yn-y-tywyllwch ar siarcol 165 gram Siersi gotwm 100%. Cofiwch fod yr inc tywynnu-yn-y-tywyllwch a ddefnyddir yn y dilledyn hwn yn colli ei sglein gwreiddiol yng nghynt nag inciau cyffredin, hyd yn oed pan ddilynir y cyfarwyddiadau gofal. Pris: £22.00 (£25.30 yn cynnwys TAW)
|
CYMRAEG – ENGLISH
|