| CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO |
Crys T Aberdare Gauchos Mae’r Stereophonics yn hanu o hen bentre’ glofaol Cwmaman, ger Aberdâr, yn Ne Cymru. Mae Javier Weyler, y drymiwr, yn hanu o’r Ariannin, y wlad fawr honno ar waelod De America. Does yna’r un arlliw o debygrwydd rhwng y Cymoedd a’r Pampas ond eto mae’r syniad o gauchos o Aberdâr wedi cydio yn fy nychymyg. Bues i’n meddwl am yr ymfudwyr o Gymru a ddaethant o hyd i loches yn yr Ariannin yn 1865 a bwrw ati i sefydlu tre’ Gymraeg o’r enw Gaiman. Roedd hynny ar adeg pan oedd y Saeson wrthi’n ceisio difa’r Gymraeg a’i diwylliant yn ogystal â’i thraddodiadau. Hoffwn gredu bod rhai o’r bobl ddewr hyn wedi ymfudo o Aberdâr a’u bod nhw neu’u disgynyddion yn y pen draw yn gauchos, yn rhodio ar draws gwastadeddau’r Pampas. Argraffir mewn du a gwyn ar winau 165-gram. Siersi gotwm 100%. Pris: £19.00 (£21.85 yn cynnwys TAW)
|
CYMRAEG – ENGLISH
|