CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO


Y Genhinen Ddinod

Does yna fawr ddim o’i le ar y genhinen. Mae’n llesol, yn gadarn ac yn flasus ac yn wir bron y gellir defnyddio’r llysieuyn fel arf. Ond pam y mae’n symbol o Gymru, does wybod.

Yn ôl Information Wales mae’n ‘ffaith’ bod Dewi Sant wedi gorchymyn ei gydwladwyr i wisgo cennin yn eu capanau ym mrwydr Heathfield yn 633 er mwyn eu gwahaniaethu oddi wrth eu gelynion Sacsonaidd.

Ond yn ôl Rhygyfarch, mynach o’r 11ganrif, roedd Dewi Sant wedi marw ar Fawrth y 1af 589 — y dyddiad hwnnw sy’n gyfrifol am ein bod yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi ar Fawrth y 1af — 44 mlynedd cyn brwydr Heathfield. Beth bynnag, efallai iddo ymddangos yn Heathfield mewn gweledigaeth neu rywbeth tebyg.

Cyfuniad o’r ‘ffeithiau’ hyn sy’n gyfrifol am arfer milwyr Cymreig o wisgo cennin ar Ddydd Gŵyl Dewi bob blwyddyn. Ydych chi erioed wedi rhoi cynnig ar wisgo cenhinen yn eich capan? Na, finnau chwaith.

Mae rhai ysgrifenwyr wedi awgrymu bod y frwydr wedi digwydd mewn cae o gennin, gan awgrymu bod gwisgo cennin yn eu capanau yn ddull cyfrwys o fod yn guddiedig.

Ymddengys bod yr adroddiadau hyn am gennin yn arwyddluniau Cymreig yn deillio o ysgrifbin y bardd Saesneg, Michael Drayton (1563-1631), a oedd yn gydoeswr i Shakespeare. Yn wir, gall y syniad o gysylltu Cymru â chennin fod yn bropaganda'r Tuduriaid, ac mae ei ystyr wedi hen ddiflannu i ebargofiant. Gallai’n hawdd fod yn gysylltiedig â phryderon ynghylch hawl gyfreithiol y Frenhines Elisabeth i deyrnasu neu ddull o hawlio teyrngarwch y Cymry yn ystod y rhyfel yn erbyn Sbaen.

Fe ddylai’r ffaith bod un o gymeriadau Shakespeare, Henry V yn teimlo bod rhaid iddo ddweud ei fod yn gwisgo cenhinen, "for I am Welsh, you know, good countryman," fod yn ddigon i wneud i chi dyfalu a yw’r propagandydd Seisnig medrus hwn yn ymddwyn yn gellweirus a dweud y lleiaf.

 

CYMRAEG – ENGLISH