CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO


Mae’n ddrwg gennym ddweud ond nid yw Jimi yma mwyach.

Mae’n ddrwg gennym eich siomi os na chlywsoch y recordiad, ond mae’r dudalen yn cynnwys recordiad o ‘Hen Wlad Fy Nhadau’, anthem genedlaethol Cymru, wedi’i mewnosod, a oedd ym marn rhai, o bosib, y recordiad olaf erioed a wnaed gan Jimi Hendrix, nawr wedi’i diddymu.

Cafodd degau o filoedd o bobol o dros 90 o wledydd andros o hwyl yn gwrando arno, ac rydym ninnau wedi mwynhau lledaenu ychydig o lawenydd ar draws y byd. Rydym yn mawr obeithio y byddai’r dyn mawr ei hun yn gwerthfawrogi bod cymaint o bobol yn ei gofio.

Os nad Jimi, wel, yna, pwy?

Ar nos Fercher, 3 Ionawr 2007, dangosodd y BBC ffilm o’r archifau o’r gitarydd o Gymru, Tich Gwilym yn chwarae ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ ar eu prif raglen newyddion, Newsnight, gan godi amheuon ynghylch pwy oedd y gitarydd ar ein recordiad ni, os nad Jimi Hendrix mohono.

Deffrodd y ffilm deimladau cymysg am fod Tich - ei enw go iawn oedd Robert Gilliam - wedi’i ladd mewn tân mewn tŷ yng Nghaerdydd yn 2005. Ond, eto, roedd hi’n wych ei weld yn chwarae’r anthem ar y teledu.

Hwyrach nad ydym yn gwybod llawer o fanylion, ond gwyddom i sicrwydd nad Tich sy’n chwarae ar ein recordiad ni, hyd yn oed petai’r arddull yn debyg, a dyw e ddim beth bynnag.

Ar gyfer y miloedd sy’n ymweld â’r dudalen hon er mwyn cymharu’r ddwy fersiwn rydym wedi trefnu gyda Mike Monk, rheolwr a chyfaill da Tich Gwilym, i sicrhau bod y trac a glywir uchod ar gael.

Ar ôl gwrando, hwyrach, y byddwch am gyfrannu at Ymddiriedolaeth Tich Gwilym, elusen a ffurfiwyd er cof amdano, sy’n cynorthwyo i roi offerynnau a gwersi cerddorol i bobol ifanc ddifreintiedig.

Rydym hefyd wedi trefnu bod Recordiau Sain yn ailgyhoeddi albwm ‘Goreuon Geraint Jarman’, a gyhoeddwyd yn 1991, ar gyfer ei lawr lwytho i iTunes. Ar y trac olaf clywir Tich yn chwarae fersiwn fendigedig o ‘Hen Wlad Fy Nhadau’.

Diolch am alw heibio The Red Dragonhood.

 

CYMRAEG – ENGLISH

Y diweddar gitarydd uchel ei barch, Tich Gwilym. Mae ei recordiad o’r anthem genedlaethol, ‘Hen Wlad Fy  Nhadau’, a wnaed gyda Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr, wedi’i ail-ryddhau ar iTunes.

Dilynwch y ddolen hon i iTune er mwyn prynu copi

Cafodd y recordiad hwn o Tich Gwilym yn chwarae ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ ei wneud yn y chwedlonol Royal Oak, Caerdydd, yn 1998, yng nghwmni Tomorrow’s Friend.

Cliciwch y ddolen hon i agor chwaraewr ar dudalen newydd

Chwaraewch e’n uchel a gyda balchder! Cofiwch Tich Gwilym, un o feibion hynaws Cymru. Cymru am byth!

I gyfrannu at Ymddiriedolaeth Tich Gwilym, gwasgwch y botwm hwn, a nodwch y swm rydych am ei roi.