| CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO |
Capan Chwilota ar gyfer y rhai hynny sy o dueddiadau milwriaethus Mewn bydysawd cyfochrog, mae yna Gymru rydd ac annibynnol. Ac yn y Gymru berffaith hon ceir holl sefydliadau gwladwriaeth fodern, fechan, sy’n ddeinamig a llewyrchus, yn amlieithog ac amlddiwylliannol. Ymhlith y sefydliadau hyn, yn naturiol, mae’r lluoedd arfog, bychan o ran nifer ond eto wedi’u hyfforddi a’u harfogi’n dda gyda’r deunyddiau diweddaraf; ac asiantaeth gofod technolegol neilltuol sy’n hedfan ymwelwyr ar fwrdd awyrennau gofod adnewyddadwy o Borthladd Gofod Y Fali ar Ynys Môn. Efallai nad yw’n ddim mwy na breuddwyd gwrach ond medrwch brofi’r Gymru berffaith hon trwy wisgo hetiau lifrau’r ddau sefydliad cenedlaethol hyn, i weld os ydyn nhw’n gweddu, fel petai. Mae yna ddewis o ddau faint, S/M a L/XL ynghyd â chymhwyswyr ffitio yn y cefn, i sicrhau eu bod yn ffitio’n berffaith. Fe fyddan nhw’n teimlo’n dda hefyd am fod ein capiau i gyd wedi’u gwneud o gotwm meddal chino 100%. Capan Chwilota Milwrol Lluoedd Arfog Cymru Wedi’i frodio mewn gwyrdd olewydd ysgafn ac arian ar wyrdd olewydd tywyll 100% cotwm. Pris: £17.00 (£19.55 yn cynnwys TAW) Capan Chwilota Asiantaeth Gofod Cymru Wedi’i frodio mewn gwyn ac arian ar ddu 100% cotwm. Pris: £17.00 (£19.55 yn cynnwys TAW)
Dwi’n ddyledus i Peth am y syniad o Asiantaeth Gofod Cymru ac i’r Cymrunaut Dilwyn Griffiths – heb anghofio ei ast annwyl Megan – am fentro lle na fentrodd yr un Cymro cynt.
|
CYMRAEG – ENGLISH
|