CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO


Pam creu baner safonedig ar gyfer Cymru?
CYMRAEG – ENGLISH
Flag

Pan gynigiodd y lefiathan gwleidyddol, Ian Lucas, AS Llafur, Wrecsam, yn ddiweddar y dylid cyfuno’r Ddraig Goch gyda’r jac yr undeb Prydeinig, doedd yna fawr neb tu fas i gylchoedd Llafur Newydd San Steffan yn dangos llawer o frwdfrydedd.

Roedd y cyfryngau, fodd bynnag, yn brin o newyddion yr wythnos honno ac fe ymddangosodd dyluniadau ar gyfer baner gyfun ym mhobman â llawer yn gwneud hwyl am ben y syniad. Roedd dau beth yn amlwg fodd bynnag: y cyntaf oedd y ffaith bod y ddraig goch yn symbol mor bwerus ac emosiynol nes ei fod yn gorseddu patrwm, hyd yn oed patrwm mor eiconig â jac yr undeb; a’r ail ffaith yw’r anghysondeb yn y modd y caiff y ddraig ei chynrychioli ar ein baner.

Gwneuthum ychydig o ymchwil a darganfod bod y ddraig goch, er yn symbol o’n cenedl, wedi cael ei hesgeuluso’n llwyr o ran cywirdeb dylunio ers ei chyflwyno gyntaf yn 1959. Defnyddir nifer o ddyluniadau amrywiol ac mae llawer o’r dreigiau’n eithriadol o amrwd. Ni wna naill ai’r Cynulliad Cenedlaethol na’r Swyddfa Gymreig yn San Steffan gymryd cyfrifoldeb amdani. Gall cwmni sy’n argraffu baneri Cymreig yn Tsiena, dyweder, i’w gwerthu i ymwelwyr a chefnogwyr rygbi mewn siopau cofroddion yng Nghaerdydd, atgynhyrchu draig o ryw fath fwy neu lai mewn unrhyw arddull o’i ddewis. Efallai mai dyna sydd i gyfrif pam fod y bwystfil chwedlonol yn dechrau ymdebygu i gi coch bychan wedi’i daro â phastwn.

Does yna ddim dyluniad safonol ar gyfer y ddraig am fod y traddodiad herodrol, sy’n cael ei reoli yng Nghymru gan y Coleg Herodrol Seisnig hynafol yn Llundain, ac sy’n caniatáu i anifeiliaid gael eu cynrychioli mewn amrywiol ffyrdd. Mae yna rai rheolau: mae’r ddraig Gymreig bob amser yn wynebu tua’r chwith (fel y byddai’n wynebu tuag at ymlaen ar darian wedi’i gwisgo ar y fraich chwith) ac mae’n ‘passant’ (bob amser yn cerdded gyda thair troed ar y llawr a throed blaen wedi’i chodi); rhoddir yr argraff bod ganddi gorff ymlusgiad mawr pedair coes gyda thafod fforchog, llygaid eryr ac esgyll ystlum.

Felly, penderfynais ymateb yn gadarnhaol i gynnig gwleidyddol Lucas o ran ei gymhelliad trwy arddel y rheolau herodrol i wella diwyg y ddraig gyda’r bwriad o gynhyrchu dyluniad safonol y byddai pawb yng Nghymru yn medru ei fabwysiadu. Mae hyn yn bwysig am fod angen i’n baner gyflwyno delwedd gyson o’n gwlad i gynorthwyo’r gwaith o hyrwyddo diwydiant a thwristiaeth.

Mae’r Ddraig Goch yn symbol o’n traddodiad a’n hanes. Fy mwriad oedd nid yn gymaint i’w newid ond i sicrhau cysondeb, ac roedd yn bwysig yr un pryd nad oedd yn ymddangos yn rhy glinigol. Mae fy fersiwn newydd o’r ddraig wedi’i diffinio’n bwerus. Mae’n gyhyrog, yn hyderus ac yn soffistigedig gan ddal ei phen a’i chynffon yn uchel. Ond eto mae’n hawdd ei hadnabod fel baner genedlaethol Cymru heb golli apêl y fersiwn draddodiadol a wnaed â llaw.

Rwy’n llwyr werthfawrogi ei bod yn well gan lawer o genedlaetholwyr a gweriniaethwyr beidio â chydnabod y faner oherwydd, yr un fath â phluf Tywysog Cymru, cafodd ei gorfodi arnom gan y frenhiniaeth Seisnig. Serch hynny, rydw i’n credu bod eicon y ddraig yn anhepgor i’n seici cenedlaethol ac mae’r rhan fwyaf ohonom yn ymateb yn frwd iddi’n emosiynol.

Rydw i’n mawr obeithio y bydd yr edrychiad newydd yn plesio’r cyhoedd yng Nghymru, y cyfryngau, y Cynulliad Cenedlaethol, cyrff chwaraeon Cymreig a chyrff masnachol. Gellir lawr lwytho gwaith celf gorffenedig a lluniau mewn amrywiaeth o fformat ffeiliau am ddim trwy ddilyn y cyswllt isod. Gall asiantaethau’r llywodraeth a chyrff masnachol ei ddefnyddio heb hawlfraint.

Nid oes angen caniatâd y Frenhines, Tywysog Charles, llywodraeth San Steffan na hyd yn oed y Cynulliad Cenedlaethol ar y fersiwn newydd o’r Ddraig Goch i fod yn batrwm safonol ar gyfer baner Cymru. Os ydych yn credu bod fy nyluniad yn ddigon da, caiff ei fabwysiadu’n ddemocrataidd trwy ddefnydd cyson. Cymru am byth!

Cliciwch fan hyn i gysylltu â’n safle lawr lwytho.

 

RHAI FFEITHIAU AM Y DDRAIG GOCH

Er bod y Ddraig Goch wedi’i chysylltu â Chymru ers canrifoedd, ni chafodd y faner gyfredol ei mabwysiadu trwy ordeiniad brenhinol tan 1959 wedi llawer o berswadio, yn arbennig gan Orsedd y Beirdd.

Honnir yn aml mai hi yw’r faner genedlaethol hynaf sy’n dal mewn defnydd er bod hanes ei mabwysiadu wedi’i golli yn niwl hanes a bellach yn destun chwedlau a dadlau. Mae yna awgrym bod yr arwyddlun yn perthyn i’r llumanau Draco y byddai’r lluoedd Rhufeinig yn eu cario yn ystod ei goresgyniad ym Mhrydain.

O fewn herodraeth ystyrir y ddraig y mwyaf gwrol o’r creaduriaid corniog gyda synnwyr gweld hynod o fain sy’n ei galluogi i warchod cyfoeth a thrysorau.

Fe’i darlunnir fel ymlusgiad mawr gyda thafod fforchog, llygaid eryr, esgyll ystlum a phedair coes.

Gwifr yw creadur sy’n edrych fel draig ond sydd ag ond dwy goes.

Mae’r ddraig Gymreig yn ‘passant’, sy’n golygu y caiff ei dangos yn cerdded gyda thair coes ar y ddaear ac un goes flaen wedi’i chodi.

Ei ‘hagwedd’ yw edrych i’r chwith fel y gwêl y sawl sy’n edrych arni. Felly byddai’r ddraig yn wynebu tuag ymlaen pan fyddai ar darian wedi’i gosod ar y fraich chwith.

Mae gan y faner Gymreig gymhareb agwedd (dyfnder i led) o 3:5. Mewn cymhariaeth mae gan jac yr undeb gymhareb agwedd o 1:2.

Credir bod stribedi gwyrdd a gwyn y faner yn ychwanegiadau a wnaed gan y Tuduriaid, y llinach Gymreig a fu’n dal gorsedd Lloegr o 1485 tan 1603.

Mae’r cyfeiriad hynaf y gwyddys amdano o ddraig yn cynrychioli Cymru i’w weld yn yr Historia Brittonum (Hanes y Brythoniaid) a ysgrifennwyd yn gynnar yn y 9fed ganrif, er ni chaiff y gyfrol hon ei hystyried yn gofnod dibynadwy o hanes y cyfnod gan haneswyr.

Credir mai’r ddraig goch oedd lluman rhyfel y Brenin Arthur. Fe’i cysylltir yn benodol ym marddoniaeth Cymru â Cadwaladr, brenin Gwynedd yn y 7fed ganrif.

Cysylltir llawer o chwedlau â’r Ddraig Goch Gymreig. Y mwyaf nodedig yw proffwydoliaeth Myrddin (Merlin) o ymladdfa hir rhwng draig goch a draig wen. Yn ôl y broffwydoliaeth byddai’r ddraig wen yn cael y llaw uchaf i ddechrau er y byddai’r ddraig goch yn ennill yn y pen draw. Byddai’r fuddugoliaeth hon yn arwain at ail-gipio Lloegr (y wlad golledig) a byddai’r Mab Darogan yn sicrhau hynny. Credir bod yr ymladd rhwng y dreigiau yn cynrychioli’r gwrthdaro rhwng y Celtiaid Prydeinig (y Cymry’n ddiweddarach) a’r goresgynwyr Sacsonaidd yn y 5ed a’r 6ed ganrif.

Y Ddraig Goch yw’r unig faner o blith gwledydd y Deyrnas Gyfunol nad yw’n rhan o jac yr undeb. Ni chafodd Cymru ei chynnwys ar y faner am iddi gael ei hatodi gan Edward I o Loegr yn 1282 ac ers Deddfau Cyfreithiau yng Nghymru 1535-1542 fe’i hystyrid yn rhan o Frenhiniaeth Lloegr.

Cafwyd cynigion i gynnwys y ddraig neu faner Dewi Sant (croes felen ar gefndir du) ar jac yr undeb ond nid yw’r awgrymiadau rhain wedi cael fawr o gefnogaeth naill ai yng Nghymru nac yn Lloegr.

Cymru a Bhutan yw’r unig wledydd sydd â draig ar eu baner.