| CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO |
Tair Pluen, Dau Fys Cyn fy mod yn cael fy nghyhuddo o fod yn senoffobig, rydw i am ei gwneud yn glir nad wyf yn erbyn y Saeson per se - mewn gwirionedd, mae rhai o fy ffrindiau gorau’n Saeson - ond mae gen i broblem wrth fyw gyda’r sbwriel eiconograffig sy’n ganlyniad 600 mlynedd o reolaeth Seisnig. Mae arwyddlun y tair pluen yn enghraifft glasurol o’r hyn sy gen i mewn golwg. Dyma fathodyn ein tîm rygbi ac felly mae’n ganolbwynt ein balchder cenedlaethol. Ac eto hwn yw arwyddnod mab y Rheolwr Seisnig. Rhag ofn nad oeddech yn gwybod yn barod, daw’r tair pluen o arfbais Philippa o Hainault, mam Ffrengig y Tywysog Du lled Ffrengig (1330 - 1376), a elwid felly am ei fod yn gwisgo arfwisg ddu. Ychwanegwyd yr arwyddair "Ich Dien” yn ddiweddarach ac mae’n Almaeneg digon cyffredin am "Rydw i’n gwasanaethu". Ddim hyd yn oed difrifwch y Lladin, sylwch. Daeth o arfbais Brenin Bohemia. Y Tywysog Du oedd y Sais/Ffrancwr cyntaf i drawsfeddiannu’r teitl "Tywysog Cymru". Ni ddefnyddiodd y tair pluen mewn brwydr chwaith. Mae’n debyg, pan fyddai amgylchiadau’n go ddifrifol defnyddiau’r fleur-de-lys Ffrengig brenhinol. Defnyddiau’r tair pluen pan oedd yn ymryson mewn twrnamaint - mewn geiriau eraill, pan oedd yn cael ychydig o hwyl. Nid yw arfbeisiau Brenhinol personol Charles Windsor yn cynnwys y Ddraig Goch ond mae arnyn nhw lawer o lewod, fleurs-de-lys a thelyn. Telyn Wyddelig, os gwelwch yn dda. Mae ei Luman Cymreig - mae ganddo faner at bob pwrpas mae’n debyg - sy medden nhw wedi ei batrymu ar faner Llewelyn a Llys Brenhinol Cymreig Gwynedd, yn cynnwys llawer o lewod hefyd, ond yr un ddraig. Rhag ofn nad ydych yn arfer cydnabod lluman Charles bob bore, mae yna darian werdd fechan yn y canol â’i goron arni. Mae’n debyg bod y gwyrdd yn symbol o Gymru. Pa deitl bynnag a roddir i’r gwron - Iarll Caer, Dug Cernyw, Dug Rothesay, Iarll Carrick, Barwn Renfrew, Arglwydd yr Ynysoedd a Thywysog a Gwarchodwr Mawr yr Alban - nid yw Charles yn dywysog Cymreig. Mae’n bosib ei fod yn gwneud llawer dros elusennau ond yn bendifaddau nid yw’n rhodd Duw i genedl y Cymry. I’r gwrthwyneb, Cymru yw rhodd Duw iddo fe, hyd yn oed petai mewn ystyr symbolaidd yn unig, yn union fel yr oedd i’w gyndeidiau, yn wir, nôl i’r Oesoedd Canol. Beth bynnag... mae hwn yn esboniad hir iawn er mwyn cyfiawnhau amharu ar arwyddnod rhywun arall. Am fod y tair pluen yn arwyddnod y gormeswr, a ninnau wedi’i wyrdroi a’i ddefnyddio mewn cyd-destun eiconig, mae’n debyg ein bod o’r farn na chawn ein cosbi. Wedi’r cyfan, pe na bai’n hoff ohono gall ein siwio, gwlei? O, nid yw’n gallu ein siwio? Dyna drueni. Yn lle’r arwyddair Almaeneg traddodiadol, gellid defnyddio’r ymadrodd "Twll dîn pob Sais" – sy’n cael ei gyfieithu yn yr Oxford Welsh Dictionary fel "down with the English" - yn burion mewn cywair eironig ac nid yw wedi’i fwriadu i awgrymu nac i gefnogi sylwadau hiliol. Yn sicr nid yw’n gywir i ystyried pob Sais yn “dwll dîn” yn arbennig am nad arnyn nhw mae’r bai mewn gwirionedd. Mae’r tywysogion a’u neiniau a’u teidiau wedi cadw’r Saeson o dan y bawd am yn hirach nag y maen nhw wedi cadw’r Cymry o dan y bawd. Mae’r ystum gyda’r ddau fys a adwaenir fel yr "ystum V" yn ôl y sôn wedi tarddu o’r cyfnod pan oedd bwäwyr Cymreig yn ymladd dros ei brenin Ffrengig yn erbyn brenin Ffrengig Ffrainc yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd. Cyhoeddodd yr awdurdodau Ffrengig petai’r bwäwyr yn cael eu dal, byddai eu bysedd hir llaw dde - y rheiny a ddefnyddid i ollwng y saeth - yn cael eu torri. Er mwyn bod yn herfeiddiol mae’n debyg bod y Cymry wedi ystumio tuag at y gelyn gan ddweud wrtho’n gwbl ddiamwys am ei heglu hi. Ym mrwydr Crécy yn 1346, deallir bod y Cymry wedi gwneud yr ystum ar ôl iddyn nhw ladd bron i 10,000 o filwyr Ffrainc a Genoa a cholli ond 40 o’u gwŷr eu hunain. Yn eironig, dyma’r union un frwydr pan gollodd cefnogwr y Ffrancwyr, Brenin Bohemia, gyda’i arwyddair "Rydw i’n gwasanaethu", ei fywyd.
|
CYMRAEG – ENGLISH
|