| CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO |
Llwch Ymbelydrol Roedd hi’n gynnes a heulog yn Lwcsembwrg gyda’r nos ar Ebrill 26, 1986. Roeddwn i’n eistedd ar deras Hotel Résidence yn Larochette, yn edmygu’r castell, sy’n teyrnasu uwchben y dref fechan brydferth ar frigiad creigiog ysblennydd. Roedd gŵr y gwesty, dyn dymunol o dras Iseldiraidd o’r enw Visser, yn fy nghyflwyno i un o’r nifer o boteli ardderchog o win Lwcsembwrgaidd y buom yn eu hyfed y noson honno. Y rheswm dros ei gyfeillgarwch a’n hyfed diedifar oedd yr hyn a ddigwyddai ar y pryd 1,250 milltir i’r dwyrain. Roeddem yn cynnig llwnc destun i’n gilydd mewn modd a awgrymai bod ein tynged yn y fantol wrth i lwch ymbelydrol o’r trychineb niwclear gwaethaf a welodd y byd yng ngorsaf bŵer Chernobyl yn yr Wcráin, a oedd ar y pryd yn rhan o’r Undeb Sofietaidd, ddisgyn yn anweledig o’n hamgylch, ar ôl cael ei gludo gan wyntoedd fry yn y ffurfafen. Yn ddiarwybod i ni, 600 milltir i’r gorllewin, roedd yna gyfuniad o amgylchiadau tywydd yn galluogi crynodiad uchel iawn o’r un deunydd ymbelydrol i ddisgyn ar Ogledd Cymru. Cefais fy atgoffa o hyn yn ddiweddar pan ddarllenais gyfweliad gan Gruff Rhys o’r Super Furry Animals sy’n hanu o Fethesda, tref chwarel fechan yn Nyffryn Ogwen yng Ngogledd Cymru. Roedd Gruff yn tynnu sylw at y ffaith fod y llwch ymbelydrol yn dal gyda ni ddau ddegawd yn ddiweddarach. Ers dros 20 mlynedd, mae ffermwyr ar draws Gogledd Cymru wedi gorfod amaethu o dan y cyfyngiadau a osodwyd yn union ar ôl digwyddiad Chernobyl. Hyd yn oed heddiw, mae defaid yn cael eu harchwilio’n gyson a thrwyadl am lefelau ymbelydredd ac mae’n rhaid eu marcio â phaent coch llachar pan symudir nhw. Eto, ychydig o gonsyrn sy wedi ei ddangos yng nghyflwr aelodau o’r boblogaeth sy’n arddangos cyfartaledd uwch nag arfer o ganser y fron, a chanser y rectwm ymhlith dynion a gwragedd. Mae rhai arbenigwyr yn cysylltu hyn â Chernobyl ac eraill yn ei gysylltu â gorsaf bŵer niwclear Trawsfynydd, sy wedi’i chau er 1993. Mynegwyd pryder am y lefel o ymbelydredd yn Llyn Trawsfynydd a ddefnyddid fel oerydd cyn i’r orsaf gael ei chau. Cred y bwrdd iechyd lleol bod y cyfraddau uwch na’r cyffredin o achosion o ganser yn fwy tebygol o fod yn gysylltiedig ag amddifadedd cymdeithasol a ffordd o fyw afiach. Maen nhw’n dweud eu bod yn poeni am y smygu a’r camddefnydd o alcohol ymhlith y boblogaeth leol. Ond eto dengys ystadegau’r llywodraeth bod nifer yr achosion o ganser yr ysgyfaint yn yr ardal mewn gwirionedd yn is nag unman arall yng Nghymru. Mae’r darn am Fethesda, crys-t sy’n tywynnu yn y tywyllwch, yn ymgais drwsgl i dynnu sylw at y mater gwarthus hwn. Er fy mod yn canfod mwy o resymau dros fod yn obeithiol yn hytrach nac yn anobeithiol am Gymru heddiw, does dim rhaid i chi chwilio’n rhy ddyfal i ganfod rhywbeth i brotestio yn ei gylch.
|
CYMRAEG – ENGLISH
|
||||||||||||||