CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO


Dosbarthu yng Nghymru a thrwy'r Deyrnas Gyfunol

Mae costau postio, pacio a TAW (treth ar werth) yn cael eu penderfynu’n awtomatig wrth i chi osod eich archeb. Cost safonol dosbarthu un eitem yng Nghymru a’r Deyrnas Gyfunol yw £3.50. Os yw’r eitem mewn stoc fe wnawn ein gorau i’w hanfon y diwrnod y caiff ei harchebu.

Os nad yw’r dilledyn a ddymunwch mewn stoc, fe fyddwn yn ei gynhyrchu ar eich cyfer ond golyga hyn y bydd angen i chi ganiatáu hyd at 28 diwrnod cyn y bydd yn eich dwylo. Os nad yw’n bosib i chi ddisgwyl cyhyd, yna, dywedwch wrthym yn y blwch sy wedi’i ddarparu ac fe fyddwn yn dileu eich archeb neu’n cynnig rhywbeth arall.

Caiff yr hyn fyddwch yn ei archebu ei anfon gyda’r post dosbarth cyntaf wedi’i gofrestru. Golyga hyn y bydd angen eich llofnod pan gyrhaedda’r parsel. Os nad ydych yn debygol o fod adref pan fydd y postmon yn galw, yna, gallwch ddweud wrthym am anfon y parsel i gyfeiriad arall pan fyddwch yn gosod eich archeb.

Dosbarthu Dramor

Bydd yr hyn fyddwch yn ei archebu’n cael ei anfon gyda’r post awyr a bydd angen llofnod pan fydd yn eich cyrraedd. Os ydych yn rhagweld na fyddwch adref pan fydd y postmon yn galw, yna, gallwch ofyn i ni anfon y parsel i gyfeiriad arall pan fyddwch yn gosod eich archeb.

Bydd y gweinydd gwe’n penderfynu beth fydd y dreth gwerthiant a’r gost o bostio yn unol â lle bynnag fyddwch yn byw pan fyddwch yn gwneud y taliad.

Gall hyn gymryd hyd at 30 diwrnod ar ôl ein gadael ni yn unol â threfniadau’r tollau a ffactorau eraill sy du hwnt i’n rheolaeth ni.

CYMRAEG – ENGLISH