| CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO |
Y Daffodil Dinod Ymddengys bod y daffodil yn hanu o Bortiwgal, Sbaen ac arfordir deheuol Ffrainc ac nid o Gymru. Ond mae’r daffodil yn rhad ac yn rhadlon ac ond yn para am ychydig wythnosau ac mae’n hynod o addas, felly, i fod yn arwyddlun cenedlaethol ar ein cyfer. Un o enwau Cymraeg y blodyn yw cenhinen Pedr a gall hyn gynnig cyfle i ddyfalu a chreu dryswch, ac, felly, man a man fy mod i’n ychwanegu at hynny. Adwaenir y blodyn hefyd yn ôl yr enwau cennin y gwinwydd, croeso’r Gwanwyn, gwayw’r brenin, lili bengam, clychau babi, lili’r Pasg, narsisws ac yn ôl ei enw Lladin Narcissus Pseudonarcissus. Y Groegwr Thephrastus oedd y cyntaf i ysgrifennu am y narsisi yn ei ‘Ymholiad i Blanhigion’ tua 300CC. Llanc ifanc a syrthiodd mewn cariad ag adlewyrchiad ohono’i hun mewn pwll o ddŵr ac a drowyd yn flodyn gan y duwiau oedd Narsisws mewn chwedloniaeth Roegaidd. Byddai Arabiaid y Canol Oesoedd yn defnyddio sudd daffodiliau gwyllt i atal moelni. Ni wn a oedd yn effeithiol. Dywedir bod milwyr Rhufeinig bob amser yn cario daffodiliau, rhag ofn y caent eu clwyfo’n angheuol mewn brwydr, ac y byddai eu bwyta’n hwyluso eu taith i’r byd tanddaearol. Dyma ddywedodd Mohammed: "Bydded i’r sawl sy ganddo ddwy dorth o fara werthu un yn gyfnewid am flodau’r narsisws, oherwydd mai bara’n fwyd i’r corff ond mae narsisws yn fwyd i’r enaid." Diolch fyth, dim ond ar Fawrth y 1af yr anogir Cymry i osod daffodiliau yn eu tyllau botwm. Ac mae’r math o Gymro sy ganddo dyllau botwm, hyd yn oed, yn eu gwisgo, weithiau, hefyd. Daeth y daffodil yn symbol Cymreig poblogaidd yn y 19 ganrif. Am fod cennin ychydig yn hurt a salw fe benderfynodd Lloyd George ddefnyddio’r daffodil fel symbol o Gymru yn Arwisgiad Edward Windsor yn 1911. Ond yn fuan wedyn ar ôl ei wneud yn Edward VIII o Loegr, penderfynodd y gŵr a oedd yn cefnogi’r Natsïaid, wrthod y swydd er mwyn priodi Americanes oedd wedi ysgaru. Does gen i ddim syniad pam fod angen planhigyn yn symbol gwlad. Dyw hi ddim syndod ei bod yn well gan genedlaetholwyr arddel eryr gwyn Eryri, sy’n symbol llawer mwy urddasol a phwerus. Beth arall hoffech chi ei wybod? Amcangyfrifir bod yna tua 50 o rywogaethau o ddaffodiliau, a rhai miloedd o gyltifarau a chroesrywiau impiedig yn deillio o erddi wedi’u henwi. Yn wir, mae Cofrestr Daffodiliau Rhyngwladol y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol yn rhestru dros 26,400 o ddaffodiliau sy wedi’u henwi.
|
CYMRAEG – ENGLISH
|