| CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO |
Y Wisg Gymreig O diar, rwy’n teimlo fel rhywun sy’n cymryd rhan yn y ffilm yna o’r enw ‘The Truman Show’ (ffilm am ddyn sy’n byw ei holl oes fel gwrthrych sioe deledu realiti, er nad yw ef ei hun yn gwybod hynny) po fwyaf yr af ati i ymchwilio i ddirgelion eiconograffig Cymreig. A fyddai’n fater o syndod i chi wybod mai dynes gyfoethog ddyfeisiodd y Wisg Gymreig Genedlaethol yn gynnar yn y 19ganrif er mwyn annog gwragedd Cymru i wisgo dillad gwlân a gynhyrchid mewn melinau o eiddo ei ffrindiau? Oherwydd dylanwad ffasiwn, cysur, cost ac argaeledd roedd gwragedd Cymru, ac yn wir, gwragedd ledled Ynysoedd Prydain, yn gwisgo dillad wedi’u gwneud o gotwm a fewnforiwyd o’r trefedigaethau cyn ei drin ym melinau Prydain, ac, felly, doedd yna fawr o alw am ddillad gwlân traddodiadol. O ganlyniad roedd busnesau gwlân Cymru’n dioddef. Tebyg nad oedd ei chymhellion i gyd yn ddrwg a buaswn wrth fy modd pe medrwn fod yn fwy gwerthfawrogol o ymdrechion Augusta Hall, a adwaenid hefyd fel Arglwyddes Llanofer. Dysgodd siarad Cymraeg, sy’n fwy nag wyf fi wedi’i wneud, a bu’n noddi’r cylchgrawn Cymraeg cyntaf ar gyfer gwragedd. Ond roedd hi’n rhagrithwraig tra-cheidwadol a gredai bod "parchusrwydd ffug yn annog dull o wisgo nad oedd yn gydnaws â bod mewn gwaith". Fy nhybiaeth i yw bod diddordeb “Cymreig” Arglwyddes Llanofer, yn gymaint ag unrhyw beth arall, wedi ei gymell gan ffantasi rhamantaidd ynghylch cefn gwlad, rhyw ddiddordeb ffasiynol roedd bonedd y cyfnod yn ymddiddori ynddo. Yn ffodus, ni theimlodd reidrwydd i lunio gwisg genedlaethol Gymreig ar gyfer dynion. Petaech yn gwisgo’r dillad rhyfeddol hynny a fynnai i’w thelynor, Thomas Gruffydd, eu gwisgo, byddech yn bendifaddau yn destun sbort yn y dafarn ar nos Wener.
|
CYMRAEG – ENGLISH
|