CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO


Brad y Llyfrau Gleision

Roedd yna gynnwrf ledled Cymru yn ystod blynyddoedd cynnar teyrnasiad y Frenhines Victoria. Esgorodd y tlodi affwysol, yr annhegwch cymdeithasol a gormes y landlordiaid ar fudiadau’r Siartiaid a Merched Beca, a throdd y fflamau o brotest yn derfysgoedd a ddiffoddwyd gan filwyr mileinig. Yn ystod y digwyddiad mwyaf eithafol, gorymdeithiodd tua 20,000 o bobol, a rhai’n cario arfau, i Gasnewydd ym mis Tachwedd 1840, lle cafwyd gwrthdaro y tu fas i Westy’r Westgate. Lladdwyd dros 20 o’r protestwyr ac anafwyd llawer mwy pan ergydiodd y milwyr i ganol y dorf.

Adroddwyd am y digwyddiadau hyn yn y papurau newydd gan beri dychryn yn Lloegr pan fynnodd The Times mai anwybodaeth oedd achos y problemau cymdeithasol a arweiniai at gynnwrf a gwrthryfel. Yn 1847, o dan bwysau gan y diwygwyr, comisiynodd y llywodraeth ymchwiliad i gyflwr addysg yng Nghymru.

Gwnaed yr ymchwiliad gan dri chomisiynydd o Loegr, a chwarae teg iddyn nhw, gwnaed gwaith trylwyr yn adrodd am gyflwr gwarthus y gyfundrefn addysg yn y wlad. Doedd yr un o’r comisiynwyr yn siarad Cymraeg ac roedd llawer o’u casgliadau’n ddibynnol ar yr hyn a glywid wrth holi offeiriaid Anglicanaidd, a oedd ar y cyfan yn bugeilio ymhlith y dosbarthiadau uwch tra bo’r dosbarth gweithiol ar y cyfan yn Anghydffurfwyr.

Dylid cofio bod moesoldeb Seisnig Oes Fictoria yn arddel rheolaeth rywiol lem, urddas ac ymatal, gwasgfa ar droseddu a synnwyr cymdeithasol cryf. Hwyrach mai dyna sy’n esbonio pam y teimlai’r comisiynwyr reidrwydd i gofnodi sylwadau am gyflwr moesol y Cymry. Ymddengys eu bod wedi’u syfrdanu gan yr hyn a welsent.

“Mae moesoldeb y bobol o safon isel iawn. Mewn gwirionedd, mae anfoesoldeb yn bodoli oherwydd diffyg synnwyr o ymrwymiad moesol yn hytrach nag anghofrwydd neu hepgor dyletswyddau gwybyddus.”

“Mân ladrata, anwireddau, twyllo, pob math o anfadwaith, meddwdod (lle’r oedd y modd ar gael), a segura yn amlwg i raddau helaeth ymysg y lleiaf addysgedig o fewn y gymuned, a phrin eu bod yn eu hystyried yn bechodau. Mae yna nodwedd boenus arall yn amlygu diffyg moesoldeb, a ddywedwyd o’u gwirfodd gan rai a roes dystiolaeth. Rydw i’n cyfeirio at ddiffyg diweirdeb honedig ymhlith y gwragedd.”

Mae’n debyg, os oedd yna ddiffyg diweirdeb ymhlith y gwragedd, yna, roedd yna ddiffyg diweirdeb ymhlith y dynion hefyd, ond am fod yr adroddiad wedi’i sgrifennu gan ddynion, ni wnaed y pwynt hwn.

Yr hyn a ganfu'r comisiynwyr yng Nghymru mewn gwirionedd oedd tlodi affwysol. Yn aml iawn doedd gan deuluoedd ddim dewis ond caniatáu i ddynion a merched rhannu ystafelloedd gwely, rhywbeth, wrth gwrs, a ystyrid yn ddirywiedig gan Anglicaniaid dosbarth canol mursennaidd. Roedd y tirfeddianwyr a’r cyflogwyr yn cymryd mantais o’u gweithwyr heb deimlo unrhyw gyfrifoldeb am eu lles.

Achosodd y comisiynwyr anniddigrwydd trwy gyhoeddi bod yr iaith Gymraeg yn rhwystr i’r Cymry rhag gwella eu byd.

“Mae’r iaith Gymraeg, felly, o’i chadw yn ei thir, a’r hinsawdd foesol ryfedd sy’n ei chysgodi, yn amgylchynu’r boblogaeth ac ymddengys fod yr amgylchiadau’n gydberthynol ac y bydd unrhyw ymgais i ddefnyddio’r naill yn fodd o gyflwyno cysyniadau ar wahân i’r rhai sy’n gysylltiedig â’r llall, yn sicr o fethu.”

Ymddengys mai hanfod eu dadl oedd na fedrai siaradwyr Cymraeg fod yn rheolwyr ac, felly, gwaith corfforol, syml, oedd eu rhawd.

“P’un ai yn y wlad neu yn y ffwrneisi, ni welir yr elfen Gymreig fyth ar ben uchaf y strwythur cymdeithasol, ac ynddo’i hun ni ddengys fawr o amrywiaeth graddfeydd. Yn y wlad, tyddynwyr yw’r ffermwyr, o ran deallusrwydd a chyfalaf a does dim i’w gwahaniaethu oddi wrth y gweision. Yn y gweithfeydd nid yw’r Cymro fyth yn canfod ei ffordd i’r swyddfa. Ni ddaw fyth yn glerc neu asiant. Gall weithiau fod yn oruchwyliwr nei is-gontractwr ond nid yw hyn yn ei dynnu o ddosbarth y llafurwyr a’i osod yn nosbarth y gweinyddwyr.”

“Mae ei iaith yn ei ddal yn ôl, am ei bod yn iaith yn yr hon na fedr naill ai gymryd na chyflwyno’r wybodaeth angenrheidiol. Hi yw iaith amaethyddiaeth hen-ffasiwn, iaith diwinyddiaeth ac iaith bywyd gwledig syml, tra bo’r holl fyd o’i amgylch yn fyd Saesneg.”

Roedd yr adroddiad yn tanlinellu’r ffaith bod lefel troseddu mewn rhai rhannau o Gymru yn sylweddol is nag oedd yn Lloegr, a dylid nodi bod y comisiynwyr yn hynod feirniadol o’r sefydliad am beidio â sicrhau gwell darpariaeth addysgol.

“Ni wna dim ond digonedd o addysg, yn seiliedig ar egwyddorion rheswm a chrefydd, ddiwygio’r cymeriad anghysegredig a gwrthryfelgar a ddeilliodd o ganlyniad i esgeulustod a difaterwch y dosbarthiadau uwch ymhlith y boblogaeth sy wrthi’n cynhyrchu nwyddau.”

Roedd y comisiynwyr hefyd yn ofalus rhag gosod y bai ar y Cymry.

“Mae eu diffyg moesoldeb, fodd bynnag, yn ganlyniad llwyr eu hamddifadiad o unrhyw ddatblygiad ymenyddol, a’r diffyg mawr o ran hyfforddiant moesol. Dydyn nhw ddim yn cael eu dysgu’n well, ac, ar hyn o bryd, does yna fawr o fodd iddyn nhw wella.

Nid oedd yn annisgwyl, felly, nad oedd y Cymry’n or-hoff o’r modd y cawsant eu disgrifio gan y comisiynwyr, a buan yr adwaenid yr Adroddiad yn ôl yr ymadrodd 'Brad y Llyfrau Gleision', ar sail lliw cloriau’r tair cyfrol.

Achosodd yr Adroddiad gythrwfl a chafodd effaith ddofn ar seici’r genedl. Dechreuodd y Cymry, ar ôl hynny, gredu mai’r unig ffordd o wella eu byd oedd trwy gyfathrebu’n Saesneg. Dylanwadwyd ar y gyfundrefn addysg gan y syniad y byddai gwybodaeth o’r Saesneg yn galluogi’r gwanaf ymhlith y Cymry i wella eu byd.

Mewn rhai ysgolion gorfodwyd plant i wisgo darn o bren â’r llythrennau WN wedi’u cerfio arno, yn dynodi ‘Welsh Not’, o amgylch eu gyddfau petaen nhw’n siarad Cymraeg. Roedd disgwyl i’r troseddwr drosglwyddo’r Welsh Not i’r plentyn nesaf a glywid yn siarad Cymraeg ac yn y blaen nes bod y plentyn a oedd yn ei wisgo ar ddiwedd y diwrnod yn cael blas y gansen.

Yr hyn sy’n bwysig o ran y Gymru fodern yw bod casgliadau’r Llyfrau Gleision wedi achosi’r Cymry i deimlo cymhlethdod dwfn ynghylch eu delwedd yng ngolwg y byd, a deil hynny o hyd i raddau. Bodola The Red Dragonhood, yn rhannol, er mwyn dileu’r canfyddiad hwn a gorseddu’r neges ei bod mewn gwirionedd yn cŵl i fod yn Gymro neu’n Gymraes.

Ond, hyd yn oed nawr, 160 mlynedd ers Brad y Llyfrau Gleision, mae rhai rhannau o Gymru ymhlith y tlotaf a’r mwyaf difreintiedig yng Ngorllewin Ewrop. Mae cyflogwr megis Burberry, er enghraifft, yn chwennych mwy fyth o elw i fodloni ei gyfranddalwyr dros dro, yn trin ffyddlondeb ei weithwyr yn y Rhondda gyda dirmyg trwy eu hamddifadu o’u hunig gyfle am gyflogaeth heb hidio’r un ffeuen am y problemau cymdeithasol a edy o’i ôl.

 

 

CYMRAEG – ENGLISH