CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO


Mae’n rhaid i ni ddechrau’r terfysg

‘A Very British Coup’ yw teitl llyfr ardderchog a ysgrifennwyd yn 1982 gan yr AS Llafur, Chris Mullin sy’n cydymdeimlo â syniadaeth asgell chwith. Lleolir digwyddiadau'r nofel ym Mhrydain pan etholwyd llywodraeth newydd ym mis Mawrth 1989 pan oedd Prydain wedi ethol llywodraeth newydd. Roedd y cyn-weithiwr dur, Harry Perkins wedi arwain ei Blaid Lafur asgell chwith eithafol i fuddugoliaeth ar sail maniffesto a oedd yn cynnwys cefnu ar NATO, diarfogi niwclear a gwaredu pob safle o eiddo’r Unol Daleithiau ym Mhrydain.

Mewn syfrdandod, ac o dan bwysau gan Oruchwyliaeth yr UD, mae’r Sefydliad Prydeinig yn tynnu at ei gilydd ac wrth i’r prif weision sifil, barwniaid y wasg a’r Ddinas gynllwynio i’w ddarostwng, gwêl Perkins ei hun yng nghanol brwydr am ei einioes. Gall Perkins a’i Lywodraeth etholedig ddal eu tir neu a fydd y Sefydliad yn trefnu ergyd farwol hynod o Brydeinig...?

Er bod y syniad canolog yn wallus am na chai llywodraeth asgell chwith eithafol fyth mo’i hethol ym Mhrydain, mae’r ddwy thema greiddiol yn dal yn dra pherthnasol heddiw. Y cyntaf yw bod Prydain mewn gwirionedd yn cael ei llywodraethu gan wladwriaeth na chafodd ei hethol. Mae’r gwasanaeth sifil, y lluoedd arfog, y cyfryngau, yr heddlu a’r gyfraith yn llawer mwy pwerus na’r llywodraeth, ac maent oll ar wahân i’r cyfryngau, yn talu gwrogaeth i’r Brenin yn hytrach na’r Prif Weinidog etholedig. Mae’r cyfryngau i bob pwrpas yn atebol i chwiwiau Rupert Murdoch. Yn ail, ac yn fwy dadleuol, mae Prydain yn wlad sy wedi’i gwladychu. Mae presenoldeb lluoedd arfog America ar dir Prydain yn gwbl annemocrataidd ac yn rhagfarnu ei hygrededd diplomyddol byd-eang.

Mae’r materion hyn yn esbonio’n rhannol pam rydw i’n cynhesu at y cysyniad o Weriniaeth Gymreig annibynnol. Fel y gwyddai Tony Blair yn dda, mewn termau simplistig, tuedda Prydain wyro i’r dde ac ers terfyn yr Ail Ryfel Byd bu’n sownd ym mhoced America. Ond yng Nghymru, am fod y wlad yn tueddu i wyro i’r chwith, mae’r amgylchiadau’n dra gwahanol. Pan fydd dyheadau’r Cynulliad Cenedlaethol yn ymestyn i’r fan lle fydd yn chwennych grym cyflawn i lunio deddfau a chodi trethi yn annibynnol o San Steffan, dylai fod yn barod i gymryd y cam olaf i ryddid trwy lithro o ofal Lloegr Dorïaidd tra bydd yn osgoi gwrthdaro gyda buddiannau masnachol Americanaidd.

Tua’r adeg y cyhoeddwyd ‘A Very British Coup’, gwelais fathodyn botwm rhywle’n dweud ‘Harry Perkins yn arweinydd’. Fe’i gwisgais i giniawa gyda chyfaill a oedd ar y pryd yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymdeithas Fabian, y mudiad sosialaidd hynaf yn y byd ac yn draddodiadol yn ffwrnes polisïau’r Blaid Lafur. Pwrpas y bathodyn oedd cyfeirio’n eironig at arweinyddiaeth aneffeithiol y Blaid Lafur ar y pryd. Ond doedd yr un o’r Ffabiaid blaenllaw a gyfarfûm yn ei weld yn ddoniol mewn unrhyw fodd. Rwy’n cofio’r diwrnod hwnnw yn ddiwrnod y dechreuais golli diddordeb mewn gwleidyddiaeth pleidiau traddodiadol.

Dyma ddwy gyfres o fathodynnau botwm i’ch galluogi i wneud eich gosodiadau eich hun:

Pecyn Bathodynnau 1 – Ar gyfer Ymladdwyr Rhyddid

Pecyn o dri 1” (25mm) bathodynnau botwm metel

  • Cymru Goch
  • Three Feathers
  • Rhyw

Pris: £3.40 fesul set o dair (£4.00 yn cynnwys TAW)


Pecyn Bathodynnau 2 - Ar gyfer y rhai sy â Thueddiadau Milwriaethus

Pecyn o dri 1” (25mm) bathodynnau botwm metel

  • Byddin Cymru
  • Llynges Cymru
  • Llu Awyr Cymru

Pris: £3.40 fesul set o dair (£4.00 yn cynnwys TAW)


Pecyn Bathodynnau 3 – Ar gyfer y breuddwydiwr

Pecyn o dri 1” (25mm) bathodynnau botwm metel

  • Awdurdod Gofod Cymru
  • Daffodil Soldier
  • Cymru

Pris: £3.40 fesul set o dair (£4.00 yn cynnwys TAW)

CYMRAEG – ENGLISH