CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO


Ynghylch The Red Dragonhood

Mae The Red Dragonhood yn ymwneud ag ansawdd ac arbenigedd a chan amlaf mae hynny’n golygu gwario. Ond mae hefyd yn ymwneud â chyfathrebu syniadau am genedligrwydd a byddai prisiau uchel yn eithrio llawer gormod o’r bobl rydw i am gyfathrebu â nhw.

Am fy mod yn ddylunydd rydw i am gynhyrchu dillad trwy ddefnyddio’r deunyddiau mwyaf meddal a mwyaf cyffyrddus y medraf ddod o hyd iddyn nhw. Er mwyn cynnal yr arbenigedd mae’n rhaid i mi gael amrywiaeth eang – neu fe fyddwch yn dod wyneb yn wyneb â phobl yn gwisgo’r un dillad â chi.

Petawn i’n cynllunio casgliad tymhorol ar gyfer un o’r tai blaenllaw byddai, yn ôl pob tebyg, yn cynnwys tua 250 o ddarnau gwahanol. Yn ein casgliad fe ddowch o hyd i tua 50. Er mwyn cadw cyflenwad mawr o ddarnau mae’n rhaid wrth lawer o gyfalaf ac yn y pen draw mae’n rhaid codi prisiau rhai eitemau.

Trwy werthu dros y rhyngrwyd rydym yn arbed y costau sy gan siop yn y stryd fawr yn ogystal â’r gyfran fyddai’n rhaid i ni ei roi i’r adwerthwyr. Golyga hynny eich bod yn cael yr ansawdd sy’n nodweddiadol o ddillad parod i’w gwisgo ym Mharis neu Milan am brisiau Caerdydd.

Er mwyn cadw costau’n isel dydyn ni dim yn cadw llawer mewn stoc. Caiff ein dillad eu cynhyrchu â llaw a hynny mewn nifer cyfyngedig. Os oes gennym eitem, yna, fe fyddwn yn ei dosbarthu ar unwaith, ond mae’r un mor debyg y byddwn yn cynhyrchu dilledyn yn benodol ar eich cyfer pan gawn eich archeb. Gall hyn gymryd ychydig wythnosau, felly, pan fyddwn yn dweud y dylid caniatáu 28 diwrnod o ran dosbarthu, fe fydd hynny’n llythrennol wir. Gobeithiwn y byddwch o’r farn y bydd yr oedi’n werth chweil am y bydd eich dilledyn yn unigryw ac arbennig.

Ni fedraf eich sicrhau na fyddwch yn dod wyneb yn wyneb â rhywun arall yn gwisgo dilledyn o’r fath yn Stryd Fawr Caerdydd, wedi’r cyfan nid yw’n ddinas fawr. Ond os ydych chi yng Nghaerdydd, Alabama; Caerdydd, Colorado; Caerdydd, Idaho; Caerdydd, Illinois; Caerdydd, Maryland; Caerdydd, New Jersey; Caerdydd, Efrog Newydd; Caerdydd, Pennsylvania; Caerdydd, Tennessee; Caerdydd, Texas; neu Gaerdydd-ger-y-môr, California; neu Gaerdydd, De Cymru Newydd o ran hynny, mae’r tebygolrwydd y dewch wyneb yn wyneb â rhywun yn gwisgo’r un dilledyn yn gymharol annhebygol ar hyn o bryd.

Dydyn ni ddim yn cynhyrchu casgliadau fesul tymor. Gan amlaf mae tai ffasiwn yn gweithio 18 mis rhag blaen ond rydyn ni’n ychwanegu darnau newydd ac yn dileu hen ddarnau bob hyn a hyn fel y mae’n briodol. Os oes yna ddilledyn i’w weld ar y safle hwn, yna, bydd ar gael i’w brynu.  Os ydych chi’n ymuno â’n rhestr bostio, yna, byddwn yn dweud wrthych rhag blaen pa eitemau newydd sy ar fin ymddangos.

Ein bwriad oedd cynhyrchu pob dim yng Nghymru ond caiff ein dillad eu cynhyrchu o’r cotwm gorau o Dwrci  – yn anffodus, ni wna gwlân Cymreig y tro a does yna’r un ffatri yng Nghymru sy’n addas ar ein cyfer. Mae rhannau o’r gwaith yn cael ei wneud yn Wolverhampton, yr argraffu yn Nottingham a’r labeli, didoli a phacio a dosbarthu yn Llundain. Pobl dda rydyn ni’n eu hadnabod ac yn ymddiried ynddyn nhw ac yn digwydd bod yn y llefydd hynny’n gwneud y gwaith hwn.

Ond rydyn ni wedi ymrwymo i drosglwyddo cymaint fyth o’r gwaith ag y medrwn i Gymru pan ddaw’r cyfle ac rydym yn gwahodd cyflenwyr posib i gysylltu â ni. Mae’n rhaid i mi ddweud bod Adran Menter, Arloesi a Rhwydweithiau Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi bod yn hynod o ddiddim wrth geisio ein cynorthwyo i gyflawni’r amcan hwn. Er hynny, rydyn ni’n benderfynol o lwyddo.

Martin Davies
Dylunydd

Mae The Red Dragonhood yn nod masnach sy wedi’i gofrestru.


CYMRAEG ENGLISH