CLICIWCH YMA I YMUNO Â'N RHESTR BOSTIO


1969

Rydw i’n cofio rhai pethau ynghylch 1969: doeddwn i ond yn 12 mlwydd oed y flwyddyn honno. Mae gen i gof clir o hofran o amgylch set deledu ddu a gwyn yng nghwmni fy rhieni a’m brawd yn gwylio delweddau aneglur o ofodwyr Apollo 11 yn cerdded ar y lleuad. Rydw i hefyd yn cofio’r gangiau bygythiol o bengrynwyr arferai loetran yn yr arcedau bryd hynny.

Ond yr hyn rydw i’n ei gofio’n bennaf am 1969 oedd y datgeliad a barodd syndod dirgrynol bod yna fyddin danddaearol wedi bod yn ymladd dros ein gwlad, ar yr union adeg roedd y sefydliad yn paratoi pantomeim cwbl ddiystyr yng Nghaernarfon.

Rydw i’n cofio teimlo’n betrusgar o feddwl y byddai’r gyflafan a achoswyd gan yr IRA yng Ngogledd Iwerddon o bosib yn digwydd yn fuan yng Nghymru, ond roeddwn i hefyd yn teimlo balchder o weld lluniau o ddynion yn gorymdeithio ar Newyddion BBC a chael fy ysbrydoli gan enw eu mudiad, Byddin Rhyddid Cymru.

Bûm yn dilyn hynt arestio, erlyn a charcharu arweinwyr y Free Wales Army ar y teledu ond roedd yr hyn a ddigwyddodd yn hynod o ddryslyd. Oedd Julian Cayo Evans, sylfaenydd y FWA, yn derfysgwr neu’n ymladdwr dros ryddid? Oedd e wedi anafu unrhyw un? Oedd e wir wedi gwneud unrhyw beth o’i le ar wahân i godi ofn ar y sefydliad? Sut, fel dinesydd cyffredin, fel plentyn hyd yn oed, y medrwch chi gael gafael ar y gwirionedd trwy’r propaganda? Wedyn fe dawelodd y mwstwr a diflannodd y FWA.

Felly, dydw i’n gwybod fawr ddim am Cayo, ar wahân i’r hyn rydw i wedi llwyddo i’w godi o lyfrau. Mae rhai sylwebyddion am i ni gredu ei fod yn ddelfrydwr oedd wedi colli’i ffordd. Mae eraill hyd yn oed yn awgrymu ei fod yn freuddwydiwr dwl. Roedd ei ffrindiau, ei deulu a’i gyd-gynllwynwyr yn amlwg yn ei addoli a’i edmygu ac roedd y mwyafrif o’r sylwebyddion Cymreig yn parchu ei wladgarwch os nad ei ddulliau eithafol.

Mae’r darn am y ‘Milwr Daffodil’ rywsut yn crynhoi’n eitha’ da'r darlun lled ramantaidd sy gen i o Cayo (gweler ‘Milwr Daffodil’). Mae’r ffrwydryn melyn yn ddyfais artistig i greu’r cyd-destun; dydw i ddim wedi darllen yr un dim sy’n cysylltu’r dyn â ffrwydron.

Os gwna’r darn ‘Milwr Daffodil’ helpu i gadw’r cof amdano ymhlith pobl sy’n rhy ifanc i gofio’r union ddigwyddiadau, yna, fe fydd hynny’n werth chweil. Ar hyn o bryd, mae dirfawr angen arwr ar Gymru sy’n fwy diweddar na Glyndŵr. Ar wahân i hynny, does dim bwriad i wneud unrhyw fath o ddatganiad gwleidyddol na chefnogi safbwynt yr un grŵp.

Drwy’r casgliad hwn, rydw i’n ceisio dweud rhywbeth am Gymreictod, a hynny gobeithio o bersbectif dyneiddiol a thosturiol. Hwyrach nad ydw i’n poeni’n ormodol am fod yn wleidyddol gywir ond rydw i ymhell o fod yn ddyn gweithredol fel Cayo. Cofiwch Cayo.

 

CYMRAEG – ENGLISH